Add parallel Print Page Options

13 Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dŷ Dafydd, ac i breswylwyr Jerwsalem, i bechod ac aflendid.

A bydd y dwthwn hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, i mi dorri enwau yr eilunod allan o’r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o’r wlad. A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a’i fam a’i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr Arglwydd: a’i dad a’i fam a’i cenedlasant ef a’i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo. A bydd y dydd hwnnw, i’r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo broffwydo; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo: Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a’m dysgodd i gadw anifeiliaid o’m hieuenctid. A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y’m clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion.

Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr sydd gyfaill i mi, medd Arglwydd y lluoedd: taro y bugail, a’r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain. A bydd yn yr holl dir, medd yr Arglwydd, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a’r drydedd a adewir ynddo. A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a’u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr Arglwydd yw fy Nuw.