Add parallel Print Page Options

95 Deuwch, canwn i’r Arglwydd: ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd. Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo â salmau. Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr, a Brenin mawr goruwch yr holl dduwiau. Yr hwn y mae gorddyfnderau y ddaear yn ei law, ac uchelderau y mynyddoedd yn eiddo. Y môr sydd eiddo, ac efe a’i gwnaeth: a’i ddwylo a luniasant y sychdir. Deuwch, addolwn, ac ymgrymwn: gostyngwn ar ein gliniau gerbron yr Arglwydd ein Gwneuthurwr. Canys efe yw ein Duw ni; a ninnau ŷm bobl ei borfa, a defaid ei law. Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd, Na chaledwch eich calonnau, megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch: Pan demtiodd eich tadau fi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd. 10 Deugain mlynedd yr ymrysonais â’r genhedlaeth hon, a dywedais, Pobl gyfeiliornus yn eu calon ydynt hwy, ac nid adnabuant fy ffyrdd: 11 Wrth y rhai y tyngais yn fy llid, na ddelent i’m gorffwysfa.