Add parallel Print Page Options

71 Ynot ti, O Arglwydd, y gobeithiais; na’m cywilyddier byth. Achub fi, a gwared fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glust ataf, ac achub fi. Bydd i mi yn drigfa gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchmynnaist fy achub; canys ti yw fy nghraig a’m hamddiffynfa. Gwared fi, O fy Nuw, o law yr annuwiol, o law yr anghyfiawn a’r traws. Canys ti yw fy ngobaith, O Arglwydd Dduw; fy ymddiried o’m hieuenctid. Wrthyt ti y’m cynhaliwyd o’r bru; ti a’m tynnaist o groth fy mam: fy mawl fydd yn wastad amdanat ti. Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa. Llanwer fy ngenau â’th foliant, ac â’th ogoniant beunydd. Na fwrw fi ymaith yn amser henaint: na wrthod fi pan ballo fy nerth. 10 Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i’m herbyn; a’r rhai a ddisgwyliant am fy enaid a gydymgynghorant, 11 Gan ddywedyd, Duw a’i gwrthododd ef: erlidiwch a deliwch ef; canys nid oes gwaredydd. 12 O Dduw, na fydd bell oddi wrthyf: fy Nuw, brysia i’m cymorth. 13 Cywilyddier a difether y rhai a wrthwynebant fy enaid: â gwarth ac â gwaradwydd y gorchuddier y rhai a geisiant ddrwg i mi. 14 Minnau a obeithiaf yn wastad, ac a’th foliannaf di fwyfwy. 15 Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder a’th iachawdwriaeth beunydd; canys ni wn rifedi arnynt. 16 Yng nghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf: dy gyfiawnder di yn unig a gofiaf fi. 17 O’m hieuenctid y’m dysgaist, O Dduw: hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau. 18 Na wrthod fi chwaith, O Dduw, mewn henaint a phenllwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i’r genhedlaeth hon, a’th gadernid i bob un a ddelo. 19 Dy gyfiawnder hefyd, O Dduw, sydd uchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion: pwy, O Dduw, sydd debyg i ti? 20 Ti, yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a’m bywhei drachefn, ac a’m cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaear. 21 Amlhei fy mawredd, ac a’m cysuri oddi amgylch. 22 Minnau a’th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd, O fy Nuw: canaf i ti â’r delyn, O Sanct Israel. 23 Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti; a’m henaid, yr hwn a waredaist. 24 Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd: oherwydd cywilyddiwyd a gwaradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.