Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd ar Sosannim, i feibion Cora, Maschil, Cân cariadau.

45 Traetha fy nghalon beth da: dywedyd yr ydwyf y pethau a wneuthum i’r brenin: fy nhafod sydd bin ysgrifennydd buan. Tecach ydwyt na meibion dynion: tywalltwyd gras ar dy wefusau: oherwydd hynny y’th fendithiodd Duw yn dragywydd. Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn, â’th ogoniant a’th harddwch. Ac yn dy harddwch marchoga yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd, a lledneisrwydd, a chyfiawnder; a’th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy. Pobl a syrthiant danat; oherwydd dy saethau llymion yn glynu yng nghalon gelynion y Brenin. Dy orsedd di, O Dduw, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di. Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew llawenydd yn fwy na’th gyfeillion. Arogl myrr, aloes, a chasia, sydd ar dy holl wisgoedd: allan o’r palasau ifori, â’r rhai y’th lawenhasant. Merched brenhinoedd oedd ymhlith dy bendefigesau: safai y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth o Offir. 10 Gwrando, ferch, a gwêl, a gostwng dy glust; ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad. 11 A’r Brenin a chwennych dy degwch: canys efe yw dy Iôr di; ymostwng dithau iddo ef. 12 Merch Tyrus hefyd fydd yno ag anrheg; a chyfoethogion y bobl a ymbiliant â’th wyneb. 13 Merch y Brenin sydd oll yn ogoneddus o fewn: gemwaith aur yw ei gwisg hi. 14 Mewn gwaith edau a nodwydd y dygir hi at y Brenin: y morynion y rhai a ddeuant ar ei hôl, yn gyfeillesau iddi, a ddygir atat ti. 15 Mewn llawenydd a gorfoledd y dygir hwynt: deuant i lys y Brenin. 16 Dy feibion fydd yn lle dy dadau, y rhai a wnei yn dywysogion yn yr holl dir. 17 Paraf gofio dy enw ym mhob cenhedlaeth ac oes: am hynny y bobl a’th foliannant byth ac yn dragywydd.