Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

41 Gwyn ei fyd a ystyria wrth y tlawd: yr Arglwydd a’i gwared ef yn amser adfyd. Yr Arglwydd a’i ceidw, ac a’i bywha; gwynfydedig fydd ar y ddaear: na ddod dithau ef wrth ewyllys ei elynion. Yr Arglwydd a’i nertha ef ar ei glaf wely: cyweiri ei holl wely ef yn ei glefyd. Mi a ddywedais, Arglwydd, trugarha wrthyf: iachâ fy enaid; canys pechais i’th erbyn. Fy ngelynion a lefarant ddrwg amdanaf, gan ddywedyd, Pa bryd y bydd efe farw, ac y derfydd am ei enw ef? Ac os daw i’m hedrych, efe a ddywed gelwydd; ei galon a gasgl ati anwiredd: pan êl allan, efe a’i traetha. Fy holl gaseion a gydhustyngant i’m herbyn: yn fy erbyn y dychmygant ddrwg i mi. Aflwydd, meddant, a lŷn wrtho: a chan ei fod yn gorwedd, ni chyfyd mwy. Hefyd y gŵr oedd annwyl gennyf, yr hwn yr ymddiriedais iddo, ac a fwytaodd fy mara, a ddyrchafodd ei sawdl i’m herbyn. 10 Eithr ti, Arglwydd, trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt. 11 Wrth hyn y gwn hoffi ohonot fi, am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i’m herbyn. 12 Ond amdanaf fi, yn fy mherffeithrwydd y’m cynheli, ac y’m gosodi ger dy fron yn dragywydd. 13 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, o dragwyddoldeb a hyd dragwyddoldeb. Amen, ac Amen.