Add parallel Print Page Options

Salm neu Gân o gysegriad tŷ Dafydd.

30 Mawrygaf di, O Arglwydd: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid. Arglwydd fy Nuw, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist. Arglwydd, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll. Cenwch i’r Arglwydd, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef. Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd. Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd. O’th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus. Arnat ti, Arglwydd, y llefais, ac â’r Arglwydd yr ymbiliais. Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd? 10 Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi. 11 Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd; 12 Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y’th foliannaf.