Add parallel Print Page Options

Salm Dafydd o foliant.

145 Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin; a bendithiaf dy enw byth ac yn dragywydd. Beunydd y’th fendithiaf; a’th enw a folaf byth ac yn dragywydd. Mawr yw yr Arglwydd, a chanmoladwy iawn; a’i fawredd sydd anchwiliadwy. Cenhedlaeth wrth genhedlaeth a fawl dy weithredoedd, ac a fynega dy gadernid. Ardderchowgrwydd gogoniant dy fawredd, a’th bethau rhyfedd, a draethaf. Traethant hwy gadernid dy weithredoedd ofnadwy: mynegaf finnau dy fawredd. Coffadwriaeth amlder dy ddaioni a draethant; a’th gyfiawnder a ddatganant. Graslon a thrugarog yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i ddig, a mawr ei drugaredd. Daionus yw yr Arglwydd i bawb: a’i drugaredd sydd ar ei holl weithredoedd. 10 Dy holl weithredoedd a’th glodforant, O Arglwydd; a’th saint a’th fendithiant. 11 Dywedant am ogoniant dy frenhiniaeth; a thraethant dy gadernid: 12 I beri i feibion dynion adnabod ei gadernid ef, a gogoniant ardderchowgrwydd ei frenhiniaeth. 13 Dy frenhiniaeth di sydd frenhiniaeth dragwyddol: a’th lywodraeth a bery yn oes oesoedd. 14 Yr Arglwydd sydd yn cynnal y rhai oll a syrthiant, ac sydd yn codi pawb a ddarostyngwyd. 15 Llygaid pob peth a ddisgwyliant wrthyt; ac yr ydwyt yn rhoddi eu bwyd iddynt yn ei bryd; 16 Gan agoryd dy law, a diwallu pob peth byw â’th ewyllys da. 17 Cyfiawn yw yr Arglwydd yn ei holl ffyrdd, a sanctaidd yn ei holl weithredoedd. 18 Agos yw yr Arglwydd at y rhai oll a alwant arno, at y rhai oll a alwant arno mewn gwirionedd. 19 Efe a wna ewyllys y rhai a’i hofnant: gwrendy hefyd eu llefain, ac a’u hachub hwynt. 20 Yr Arglwydd sydd yn cadw pawb a’i carant ef; ond yr holl rai annuwiol a ddifetha efe. 21 Traetha fy ngenau foliant yr Arglwydd: a bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef byth ac yn dragywydd.