Add parallel Print Page Options

116 Da gennyf wrando o’r Arglwydd ar fy llef, a’m gweddïau. Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef. Gofidion angau a’m cylchynasant, a gofidiau uffern a’m daliasant: ing a blinder a gefais. Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd; Atolwg, Arglwydd, gwared fy enaid. Graslon yw yr Arglwydd, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni. Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a’m hachubodd. Dychwel, O fy enaid, i’th orffwysfa; canys yr Arglwydd fu dda wrthyt. Oherwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a’m traed rhag llithro. Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhir y rhai byw. 10 Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr. 11 Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog. 12 Beth a dalaf i’r Arglwydd, am ei holl ddoniau i mi? 13 Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf. 14 Fy addunedau a dalaf i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef. 15 Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef. 16 O Arglwydd, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau. 17 Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr Arglwydd. 18 Talaf fy addunedau i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl, 19 Yng nghynteddoedd tŷ yr Arglwydd, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.