Add parallel Print Page Options

104 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd. O Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt; gwisgaist ogoniant a harddwch. Yr hwn wyt yn gwisgo goleuni fel dilledyn: ac yn taenu y nefoedd fel llen. Yr hwn sydd yn gosod tulathau ei ystafelloedd yn y dyfroedd; yn gwneuthur y cymylau yn gerbyd iddo; ac yn rhodio ar adenydd y gwynt. Yr hwn sydd yn gwneuthur ei genhadon yn ysbrydion; a’i weinidogion yn dân fflamllyd. Yr hwn a seiliodd y ddaear ar ei sylfeini, fel na symudo byth yn dragywydd. Toaist hi â’r gorddyfnder, megis â gwisg: y dyfroedd a safent goruwch y mynyddoedd. Gan dy gerydd di y ffoesant: rhag sŵn dy daran y prysurasant ymaith. Gan y mynyddoedd yr ymgodant: ar hyd y dyffrynnoedd y disgynnant, i’r lle a seiliaist iddynt. Gosodaist derfyn, fel nad elont drosodd; fel na ddychwelont i orchuddio y ddaear. 10 Yr hwn a yrr y ffynhonnau i’r dyffrynnoedd, y rhai a gerddant rhwng y bryniau. 11 Diodant holl fwystfilod y maes: yr asynnod gwylltion a dorrant eu syched. 12 Adar y nefoedd a drigant gerllaw iddynt, y rhai a leisiant oddi rhwng y cangau. 13 Y mae efe yn dyfrhau y bryniau o’i ystafelloedd: y ddaear a ddigonir o ffrwyth dy weithredoedd. 14 Y mae yn peri i’r gwellt dyfu i’r anifeiliaid, a llysiau i wasanaeth dyn: fel y dyco fara allan o’r ddaear; 15 A gwin, yr hwn a lawenycha galon dyn; ac olew, i beri i’w wyneb ddisgleirio: a bara, yr hwn a gynnal galon dyn. 16 Prennau yr Arglwydd sydd lawn sugn: cedrwydd Libanus, y rhai a blannodd efe; 17 Lle y nytha yr adar: y ffynidwydd yw tŷ y ciconia. 18 Y mynyddoedd uchel sydd noddfa i’r geifr; a’r creigiau i’r cwningod. 19 Efe a wnaeth y lleuad i amserau nodedig: yr haul a edwyn ei fachludiad. 20 Gwnei dywyllwch, a nos fydd: ynddi yr ymlusga pob bwystfil coed. 21 Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw. 22 Pan godo haul, ymgasglant, a gorweddant yn eu llochesau. 23 Dyn a â allan i’w waith, ac i’w orchwyl hyd yr hwyr. 24 Mor lluosog yw dy weithredoedd, O Arglwydd! gwnaethost hwynt oll mewn doethineb: llawn yw y ddaear o’th gyfoeth. 25 Felly y mae y môr mawr, llydan: yno y mae ymlusgiaid heb rifedi, bwystfilod bychain a mawrion. 26 Yno yr â y llongau: yno y mae y lefiathan, yr hwn a luniaist i chwarae ynddo. 27 Y rhai hyn oll a ddisgwyliant wrthyt; am roddi iddynt eu bwyd yn ei bryd. 28 A roddech iddynt, a gasglant: agori dy law, a diwellir hwynt â daioni. 29 Ti a guddi dy wyneb, hwythau a drallodir: dygi ymaith eu hanadl, a threngant, a dychwelant i’w llwch. 30 Pan ollyngych dy ysbryd, y crëir hwynt; ac yr adnewyddi wyneb y ddaear. 31 Gogoniant yr Arglwydd fydd yn dragywydd: yr Arglwydd a lawenycha yn ei weithredoedd. 32 Efe a edrych ar y ddaear, a hi a gryna: efe a gyffwrdd â’r mynyddoedd, a hwy a fygant. 33 Canaf i’r Arglwydd tra fyddwyf fyw: canaf i’m Duw tra fyddwyf. 34 Bydd melys fy myfyrdod amdano: mi a lawenychaf yn yr Arglwydd. 35 Darfydded y pechaduriaid o’r tir, na fydded yr annuwiolion mwy. Fy enaid, bendithia di yr Arglwydd. Molwch yr Arglwydd.