Add parallel Print Page Options

Salm Dafydd.

103 Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; a chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd; ac nac anghofia ei holl ddoniau ef: Yr hwn sydd yn maddau dy holl anwireddau; yr hwn sydd yn iacháu dy holl lesgedd: Yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw: yr hwn sydd yn dy goroni â thrugaredd ac â thosturi: Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni; fel yr adnewyddir dy ieuenctid fel yr eryr. Yr Arglwydd sydd yn gwneuthur cyfiawnder a barn i’r rhai gorthrymedig oll. Hysbysodd ei ffyrdd i Moses; ei weithredoedd i feibion Israel. Trugarog a graslon yw yr Arglwydd; hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd. Nid byth yr ymryson efe: ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint. 10 Nid yn ôl ein pechodau y gwnaeth efe â ni; ac nid yn ôl ein hanwireddau y talodd efe i ni. 11 Canys cyfuwch ag yw y nefoedd uwchlaw y ddaear, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai a’i hofnant ef. 12 Cyn belled ag yw y dwyrain oddi wrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddi wrthym. 13 Fel y tosturia tad wrth ei blant, felly y tosturia yr Arglwydd wrth y rhai a’i hofnant ef. 14 Canys efe a edwyn ein defnydd ni: cofia mai llwch ydym. 15 Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn: megis blodeuyn y maes, felly y blodeua efe. 16 Canys y gwynt a â drosto, ac ni bydd mwy ohono; a’i le nid edwyn ddim ohono ef mwy. 17 Ond trugaredd yr Arglwydd sydd o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ar y rhai a’i hofnant ef; a’i gyfiawnder i blant eu plant; 18 I’r sawl a gadwant ei gyfamod ef, ac a gofiant ei orchmynion i’w gwneuthur. 19 Yr Arglwydd a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd: a’i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth. 20 Bendithiwch yr Arglwydd, ei angylion ef, cedyrn o nerth, yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef. 21 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl luoedd ef; ei holl weision yn gwneuthur ei ewyllys ef. 22 Bendithiwch yr Arglwydd, ei holl weithredoedd ef, ym mhob man o’i lywodraeth: fy enaid, bendithia yr Arglwydd.