Add parallel Print Page Options

10 Paham, Arglwydd, y sefi o bell? yr ymguddi yn amser cyfyngder? Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant. Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio. Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais Dduw: nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef. Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion. Dywedodd yn ei galon, Ni’m symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd. Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd. Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i’w rwyd. 10 Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef. 11 Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth. 12 Cyfod, Arglwydd; O Dduw, dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol. 13 Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw? dywedodd yn ei galon, Nid ymofynni. 14 Gwelaist hyn; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham, i roddi tâl â’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad. 15 Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim. 16 Yr Arglwydd sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef. 17 Arglwydd, clywaist ddymuniad y tlodion: paratôi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt; 18 I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.