Add parallel Print Page Options

Salm.

98 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth. Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd. Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni. Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch. Cenwch i’r Arglwydd gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm. Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin. Rhued y môr a’i gyflawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn. Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.