Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd, Salm meibion Cora.

85 Graslon fuost, O Arglwydd, i’th dir: dychwelaist gaethiwed Jacob. Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela. Tynnaist ymaith dy holl lid: troaist oddi wrth lidiowgrwydd dy ddicter. Tro ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth, a thor ymaith dy ddigofaint oddi wrthym. Ai byth y digi wrthym? a estynni di dy soriant hyd genhedlaeth a chenhedlaeth? Oni throi di a’n bywhau ni, fel y llawenycho dy bobl ynot ti? Dangos i ni, Arglwydd, dy drugaredd, a dod i ni dy iachawdwriaeth. Gwrandawaf beth a ddywed yr Arglwydd Dduw: canys efe a draetha heddwch i’w bobl, ac i’w saint: ond na throant at ynfydrwydd. Diau fod ei iechyd ef yn agos i’r rhai a’i hofnant; fel y trigo gogoniant yn ein tir ni. 10 Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant. 11 Gwirionedd a dardda o’r ddaear; a chyfiawnder a edrych i lawr o’r nefoedd. 12 Yr Arglwydd hefyd a rydd ddaioni; a’n daear a rydd ei chnwd. 13 Cyfiawnder a â o’i flaen ef; ac a esyd ei draed ef ar y ffordd.