Add parallel Print Page Options

Salm Asaff.

50 Duw y duwiau, sef yr Arglwydd, a lefarodd, ac a alwodd y ddaear, o godiad haul hyd ei fachludiad. Allan o Seion, perffeithrwydd tegwch, y llewyrchodd Duw. Ein Duw ni a ddaw, ac ni bydd distaw: tân a ysa o’i flaen ef, a thymestl ddirfawr fydd o’i amgylch. Geilw ar y nefoedd oddi uchod, ac ar y ddaear, i farnu ei bobl. Cesglwch fy saint ynghyd ataf fi, y rhai a wnaethant gyfamod â mi trwy aberth. A’r nefoedd a fynegant ei gyfiawnder ef: canys Duw ei hun sydd Farnwr. Sela. Clywch, fy mhobl, a mi a lefaraf; O Israel, a mi a dystiolaethaf i’th erbyn: Duw, sef dy Dduw di, ydwyf fi. Nid am dy aberthau y’th geryddaf, na’th boethoffrymau, am nad oeddynt ger fy mron i yn wastad. Ni chymeraf fustach o’th dŷ, na bychod o’th gorlannau. 10 Canys holl fwystfilod y coed ydynt eiddof fi, a’r anifeiliaid ar fil o fynyddoedd. 11 Adwaen holl adar y mynyddoedd: a gwyllt anifeiliaid y maes ydynt eiddof fi. 12 Os bydd newyn arnaf, ni ddywedaf i ti: canys y byd a’i gyflawnder sydd eiddof fi. 13 A fwytâf fi gig teirw? neu a yfaf fi waed bychod? 14 Abertha foliant i Dduw; a thâl i’r Goruchaf dy addunedau: 15 A galw arnaf fi yn nydd trallod: mi a’th waredaf, a thi a’m gogoneddi. 16 Ond wrth yr annuwiol y dywedodd Duw, Beth sydd i ti a fynegech ar fy neddfau, neu a gymerech ar fy nghyfamod yn dy enau? 17 Gan dy fod yn casáu addysg, ac yn taflu fy ngeiriau i’th ôl. 18 Pan welaist leidr, cytunaist ag ef; a’th gyfran oedd gyda’r godinebwyr. 19 Gollyngaist dy safn i ddrygioni, a’th dafod a gydbletha ddichell. 20 Eisteddaist a dywedaist yn erbyn dy frawd: rhoddaist enllib i fab dy fam. 21 Hyn a wnaethost, a mi a dewais: tybiaist dithau fy mod yn gwbl fel ti dy hun: ond mi a’th argyhoeddaf, ac a’u trefnaf o flaen dy lygaid. 22 Deellwch hyn yn awr, y rhai ydych yn anghofio Duw; rhag i mi eich rhwygo, ac na byddo gwaredydd. 23 Yr hwn a abertho foliant, a’m gogonedda i: a’r neb a osodo ei ffordd yn iawn, dangosaf iddo iachawdwriaeth Duw.