Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd ar Aieleth‐hasahar, Salm Dafydd.

22 Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gwrthodaist? paham yr ydwyt mor bell oddi wrth fy iachawdwriaeth, a geiriau fy llefain? Fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi; y nos hefyd, ac nid oes osteg i mi. Ond tydi wyt sanctaidd, O dydi yr hwn wyt yn cyfanheddu ym moliant Israel. Ein tadau a obeithiasant ynot: gobeithiasant, a gwaredaist hwynt. Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddiriedasant, ac nis gwaradwyddwyd hwynt. A minnau, pryf ydwyf, ac nid gŵr; gwarthrudd dynion, a dirmyg y bobl. Pawb a’r a’m gwelant, a’m gwatwarant: llaesant wefl, ysgydwant ben, gan ddywedyd, Ymddiriedodd yn yr Arglwydd; gwareded ef: achubed ef, gan ei fod yn dda ganddo. Canys ti a’m tynnaist o’r groth: gwnaethost i mi obeithio pan oeddwn ar fronnau fy mam. 10 Arnat ti y’m bwriwyd o’r bru: o groth fy mam fy Nuw ydwyt. 11 Nac ymbellha oddi wrthyf; oherwydd cyfyngder sydd agos: canys nid oes cynorthwywr. 12 Teirw lawer a’m cylchynasant: gwrdd deirw Basan a’m hamgylchasant. 13 Agorasant arnaf eu genau, fel llew rheibus a rhuadwy. 14 Fel dwfr y’m tywalltwyd, a’m hesgyrn oll a ymwahanasant: fy nghalon sydd fel cwyr; hi a doddodd yng nghanol fy mherfedd. 15 Fy nerth a wywodd fel priddlestr; a’m tafod a lynodd wrth daflod fy ngenau: ac i lwch angau y’m dygaist. 16 Canys cŵn a’m cylchynasant: cynulleidfa y drygionus a’m hamgylchasant: trywanasant fy nwylo a’m traed. 17 Gallaf gyfrif fy holl esgyrn: y maent yn tremio ac yn edrych arnaf. 18 Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg, ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren. 19 Ond tydi, Arglwydd, nac ymbellha: fy nghadernid, brysia i’m cynorthwyo. 20 Gwared fy enaid rhag y cleddyf, fy unig enaid o feddiant y ci. 21 Achub fi rhag safn y llew: canys o blith cyrn unicorniaid y’m gwrandewaist. 22 Mynegaf dy enw i’m brodyr: yng nghanol y gynulleidfa y’th folaf. 23 Y rhai sydd yn ofni yr Arglwydd, molwch ef: holl had Jacob, gogoneddwch ef; a holl had Israel, ofnwch ef. 24 Canys ni ddirmygodd, ac ni ffieiddiodd gystudd y tlawd; ac ni chuddiodd ei wyneb rhagddo: ond pan lefodd efe arno, efe a wrandawodd. 25 Fy mawl sydd ohonot ti yn y gynulleidfa fawr: fy addunedau a dalaf gerbron y rhai a’i hofnant ef. 26 Y tlodion a fwytânt, ac a ddiwellir: y rhai a geisiant yr Arglwydd, a’i moliannant ef: eich calon fydd byw yn dragywydd. 27 Holl derfynau y ddaear a gofiant, ac a droant at yr Arglwydd: a holl dylwythau y cenhedloedd a addolant ger dy fron di. 28 Canys eiddo yr Arglwydd yw y deyrnas: ac efe sydd yn llywodraethu ymhlith y cenhedloedd. 29 Yr holl rai breision ar y ddaear a fwytânt, ac a addolant: y rhai a ddisgynnant i’r llwch, a ymgrymant ger ei fron ef; ac nid oes neb a all gadw yn fyw ei enaid ei hun. 30 Eu had a’i gwasanaetha ef: cyfrifir ef i’r Arglwydd yn genhedlaeth. 31 Deuant, ac adroddant ei gyfiawnder ef i’r bobl a enir, mai efe a wnaeth hyn.