Add parallel Print Page Options

15 A nyni y rhai ydym gryfion, a ddylem gynnal gwendid y rhai gweiniaid, ac nid rhyngu ein bodd ein hunain. Boddhaed pob un ohonom ei gymydog yn yr hyn sydd dda iddo er adeiladaeth. Canys Crist nis boddhaodd ef ei hun; eithr, megis y mae yn ysgrifenedig, Gwaradwyddiadau y rhai a’th waradwyddent di, a syrthiasant arnaf fi. Canys pa bethau bynnag a ysgrifennwyd o’r blaen, er addysg i ni yr ysgrifennwyd hwynt; fel trwy amynedd a diddanwch yr ysgrythurau, y gallem gael gobaith. A Duw yr amynedd a’r diddanwch a roddo i chwi synied yr un peth tuag at eich gilydd yn ôl Crist Iesu: Fel y galloch yn unfryd, o un genau, ogoneddu Duw, a Thad ein Harglwydd Iesu Grist. Oherwydd paham derbyniwch eich gilydd, megis ag y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw. Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Iesu Grist yn weinidog i’r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau’r addewidion a wnaethpwyd i’r tadau: Ac fel y byddai i’r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd; fel y mae yn ysgrifenedig, Am hyn y cyffesaf i ti ymhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. 10 A thrachefn y mae yn dywedyd, Ymlawenhewch, Genhedloedd, gyda’i bobl ef. 11 A thrachefn, Molwch yr Arglwydd, yr holl Genhedloedd; a chlodforwch ef, yr holl bobloedd. 12 A thrachefn y mae Eseias yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Jesse, a’r hwn a gyfyd i lywodraethu’r Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia’r Cenhedloedd. 13 A Duw’r gobaith a’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd gan gredu, fel y cynyddoch mewn gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân. 14 Ac yr wyf fi fy hun, fy mrodyr, yn credu amdanoch chwi, eich bod chwithau yn llawn daioni, wedi eich cyflawni o bob gwybodaeth, ac yn abl i rybuddio eich gilydd hefyd. 15 Eithr mi a ysgrifennais yn hyach o beth atoch, O frodyr, fel un yn dwyn ar gof i chwi, trwy’r gras a roddwyd i mi gan Dduw; 16 Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist at y Cenhedloedd, gan weini i efengyl Duw, fel y byddai offrymiad y Cenhedloedd yn gymeradwy, wedi ei sancteiddio gan yr Ysbryd Glân. 17 Y mae i mi gan hynny orfoledd yng Nghrist Iesu, o ran y pethau a berthyn i Dduw. 18 Canys ni feiddiaf fi ddywedyd dim o’r pethau ni weithredodd Crist trwof fi, i wneuthur y Cenhedloedd yn ufudd ar air a gweithred, 19 Trwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, gan nerth Ysbryd Duw; hyd pan o Jerwsalem, ac o amgylch hyd Ilyricum, y llenwais efengyl Crist. 20 Ac felly gan ymorchestu i bregethu’r efengyl, nid lle yr enwid Crist: fel nad adeiladwn ar sail un arall: 21 Eithr megis y mae yn ysgrifenedig, I’r rhai ni fynegwyd amdano, hwynt‐hwy a’i gwelant ef; a’r rhai ni chlywsant, a ddeallant. 22 Am hynny hefyd y’m lluddiwyd yn fynych i ddyfod atoch chwi. 23 Eithr yr awr hon, gan nad oes gennyf le mwyach yn y gwledydd hyn, a hefyd bod arnaf hiraeth er ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi; 24 Pan elwyf i’r Hispaen, myfi a ddeuaf atoch chwi: canys yr wyf yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a’m hebrwng gennych yno, os byddaf yn gyntaf o ran wedi fy llenwi ohonoch. 25 Ac yr awr hon yr wyf fi yn myned i Jerwsalem, i weini i’r saint. 26 Canys rhyngodd bodd i’r rhai o Facedonia ac Achaia wneuthur rhyw gymorth i’r rhai tlodion o’r saint sydd yn Jerwsalem. 27 Canys rhyngodd bodd iddynt; a’u dyledwyr hwy ydynt. Oblegid os cafodd y Cenhedloedd gyfran o’u pethau ysbrydol hwynt, hwythau hefyd a ddylent weini iddynt hwythau mewn pethau cnawdol. 28 Wedi i mi gan hynny orffen hyn, a selio iddynt y ffrwyth hwn, mi a ddeuaf heboch i’r Hispaen. 29 Ac mi a wn, pan ddelwyf atoch, y deuaf â chyflawnder bendith efengyl Crist. 30 Eithr yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er mwyn ein Harglwydd Iesu Grist, ac er cariad yr Ysbryd, ar gydymdrech ohonoch gyda myfi mewn gweddïau drosof fi at Dduw; 31 Fel y’m gwareder oddi wrth y rhai anufudd yn Jwdea: ac ar fod fy ngweinidogaeth, yr hon sydd gennyf i Jerwsalem, yn gymeradwy gan y saint; 32 Fel y delwyf atoch mewn llawenydd, trwy ewyllys Duw, ac y’m cydlonner gyda chwi. 33 A Duw’r heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.

15 We who are strong ought to bear with the failings of the weak(A) and not to please ourselves. Each of us should please our neighbors for their good,(B) to build them up.(C) For even Christ did not please himself(D) but, as it is written: “The insults of those who insult you have fallen on me.”[a](E) For everything that was written in the past was written to teach us,(F) so that through the endurance taught in the Scriptures and the encouragement they provide we might have hope.

May the God who gives endurance and encouragement give you the same attitude of mind(G) toward each other that Christ Jesus had, so that with one mind and one voice you may glorify(H) the God and Father(I) of our Lord Jesus Christ.

Accept one another,(J) then, just as Christ accepted you, in order to bring praise to God. For I tell you that Christ has become a servant of the Jews[b](K) on behalf of God’s truth, so that the promises(L) made to the patriarchs might be confirmed and, moreover, that the Gentiles(M) might glorify God(N) for his mercy. As it is written:

“Therefore I will praise you among the Gentiles;
    I will sing the praises of your name.”[c](O)

10 Again, it says,

“Rejoice, you Gentiles, with his people.”[d](P)

11 And again,

“Praise the Lord, all you Gentiles;
    let all the peoples extol him.”[e](Q)

12 And again, Isaiah says,

“The Root of Jesse(R) will spring up,
    one who will arise to rule over the nations;
    in him the Gentiles will hope.”[f](S)

13 May the God of hope fill you with all joy and peace(T) as you trust in him, so that you may overflow with hope by the power of the Holy Spirit.(U)

Paul the Minister to the Gentiles

14 I myself am convinced, my brothers and sisters, that you yourselves are full of goodness,(V) filled with knowledge(W) and competent to instruct one another. 15 Yet I have written you quite boldly on some points to remind you of them again, because of the grace God gave me(X) 16 to be a minister of Christ Jesus to the Gentiles.(Y) He gave me the priestly duty of proclaiming the gospel of God,(Z) so that the Gentiles might become an offering(AA) acceptable to God, sanctified by the Holy Spirit.

17 Therefore I glory in Christ Jesus(AB) in my service to God.(AC) 18 I will not venture to speak of anything except what Christ has accomplished through me in leading the Gentiles(AD) to obey God(AE) by what I have said and done— 19 by the power of signs and wonders,(AF) through the power of the Spirit of God.(AG) So from Jerusalem(AH) all the way around to Illyricum, I have fully proclaimed the gospel of Christ.(AI) 20 It has always been my ambition to preach the gospel(AJ) where Christ was not known, so that I would not be building on someone else’s foundation.(AK) 21 Rather, as it is written:

“Those who were not told about him will see,
    and those who have not heard will understand.”[g](AL)

22 This is why I have often been hindered from coming to you.(AM)

Paul’s Plan to Visit Rome

23 But now that there is no more place for me to work in these regions, and since I have been longing for many years to visit you,(AN) 24 I plan to do so when I go to Spain.(AO) I hope to see you while passing through and to have you assist(AP) me on my journey there, after I have enjoyed your company for a while. 25 Now, however, I am on my way to Jerusalem(AQ) in the service(AR) of the Lord’s people(AS) there. 26 For Macedonia(AT) and Achaia(AU) were pleased to make a contribution for the poor among the Lord’s people in Jerusalem.(AV) 27 They were pleased to do it, and indeed they owe it to them. For if the Gentiles have shared in the Jews’ spiritual blessings, they owe it to the Jews to share with them their material blessings.(AW) 28 So after I have completed this task and have made sure that they have received this contribution, I will go to Spain(AX) and visit you on the way. 29 I know that when I come to you,(AY) I will come in the full measure of the blessing of Christ.

30 I urge you, brothers and sisters, by our Lord Jesus Christ and by the love of the Spirit,(AZ) to join me in my struggle by praying to God for me.(BA) 31 Pray that I may be kept safe(BB) from the unbelievers in Judea and that the contribution(BC) I take to Jerusalem may be favorably received by the Lord’s people(BD) there, 32 so that I may come to you(BE) with joy, by God’s will,(BF) and in your company be refreshed.(BG) 33 The God of peace(BH) be with you all. Amen.

Footnotes

  1. Romans 15:3 Psalm 69:9
  2. Romans 15:8 Greek circumcision
  3. Romans 15:9 2 Samuel 22:50; Psalm 18:49
  4. Romans 15:10 Deut. 32:43
  5. Romans 15:11 Psalm 117:1
  6. Romans 15:12 Isaiah 11:10 (see Septuagint)
  7. Romans 15:21 Isaiah 52:15 (see Septuagint)