Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Numeri 8  Beibl William Morgan

8 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth Aaron, a dywed wrtho, Pan oleuech y lampau, llewyrched y saith lamp ar gyfer y canhwyllbren. 3 Ac felly y gwnaeth Aaron; ar gyfer y canhwyllbren y goleuodd efe ei lampau ef, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses. 4 Dyma waith y canhwyllbren: cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr, ie, hyd ei flodau cyfanwaith fydd; yn ôl y dull a ddangosodd yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth efe y canhwyllbren.

5 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 6 Cymer y Lefiaid o fysg meibion Israel, a glanha hwynt. 7 Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhau: taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnânt i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt. 8 Yna cymerant fustach ieuanc a’i fwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; a bustach ieuanc arall a gymeri di yn aberth dros bechod. 9 A phâr i’r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod; a chynnull holl gynulleidfa meibion Israel ynghyd. 10 A dwg y Lefiaid gerbron yr Arglwydd; a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid. 11 Ac offrymed Aaron y Lefiaid gerbron yr Arglwydd, yn offrwm gan feibion Israel, fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd. 12 A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: ac offrwm dithau un yn bech‐aberth a’r llall yn offrwm poeth i’r Arglwydd, i wneuthur cymod dros y Lefiaid. 13 A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cherbron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i’r Arglwydd. 14 A neilltua’r Lefiaid o blith meibion Israel, a bydded y Lefiaid yn eiddof fi. 15 Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod; a glanha di hwynt, ac offryma hwynt yn offrwm. 16 Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel: yn lle agorydd pob croth, sef pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, y cymerais hwynt i mi. 17 Canys i mi y perthyn pob cyntaf‐anedig ymhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y trewais bobcyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, y sancteiddiais hwynt i mi fy hun. 18 A chymerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel. 19 A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i’w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymod dros feibion Israel; fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cysegr. 20 A gwnaeth Moses ac Aaron, a holl gynulleidfa meibion Israel, i’r Lefiaid, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt. 21 A’r Lefiaid a lanhawyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a’u hoffrymodd hwynt yn offrwm gerbron yr Arglwydd: a gwnaeth Aaron gymod drostynt i’w glanhau hwynt. 22 Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, gerbron Aaron a’i feibion; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.

23 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 24 Dyma’r hyn a berthyn i’r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac uchod, y deuant i filwrio milwriaeth yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod. 25 Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y gwasanaeth, fel na wasanaetho mwy. 26 Ond gwasanaethed gyda’i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio; ac na wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.

Next
Numeri 7
Numeri 9
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences