Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Numeri 6  Beibl William Morgan

6 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneilltuo gŵr neu wraig i addo adduned Nasaread, i ymneilltuo i’r Arglwydd: 3 Ymneilltued oddi wrth win a diod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr diod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytaed rawnwin irion, na sychion. 4 Holl ddyddiau ei Nasareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o’r dincod hyd y bilionen. 5 Holl ddyddiau adduned ei Nasareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni’r dyddiau yr ymneilltuodd efe i’r Arglwydd, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu. 6 Holl ddyddiau ei ymneilltuaeth i’r Arglwydd, na ddeued at gorff marw. 7 Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am fod Nasareaeth ei Dduw ar ei ben ef. 8 Holl ddyddiau ei Nasareaeth,sanctaidd fydd efe i’r Arglwydd. 9 Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymwth, a halogi pen ei Nasareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef. 10 Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod. 11 Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, a gwnaed gymod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw. 12 A neilltued i’r Arglwydd ddyddiau ei Nasareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd; ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nasareaeth ef.

13 A dyma gyfraith y Nasaread: pan gyflawner dyddiau ei Nasareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod. 14 A dyged yn offrwm drosto i’r Arglwydd, un hesbwrn blwydd,perffaith‐gwbl yn boethoffrwm; ac un hesbin flwydd, berffaith‐gwbl, yn bech‐aberth; ac un hwrdd perffaith‐gwbl, yn aberth hedd; 15 Cawellaid o fara croyw hefyd, sef teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy olew, ac afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm hwy. 16 A dyged yr offeiriad hwynt gerbron yr Arglwydd, ac offrymed ei bech‐aberth a’i boethoffrwm ef. 17 Offrymed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i’r Arglwydd, ynghyd â’r cawellaid bara croyw; ac offrymed yr offeiriad ei fwyd‐offrwm a’i ddiod‐offrwm ef. 18 Ac eillied y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nasareaeth; a chymered flew pen ei Nasareaeth, a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd. 19 Cymered yr offeiriad hefyd balfais o’r hwrdd wedi ei berwi, ac un deisen groyw o’r cawell, ac un afrlladen groyw; a rhodded ar ddwylo’r Nasaread, wedi eillio ohono ei Nasareaeth; 20 A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: sanctaidd yw hyn i’r offeiriad, heblaw parwyden y cyhwfan, a phalfais y dyrchafael. Ac wedi hyn y caiff y Nasaread yfed gwin. 21 Dyma gyfraith y Nasaread a addunedodd, a’i offrwm i’r Arglwydd am ei Nasareaeth, heblaw yr hyn a gyrhaeddo ei law ef: fel y byddo ei adduned a addunedo, felly gwnaed, heblaw cyfraith ei Nasareaeth.

22 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 23 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt, 24 Bendithied yr Arglwydd di, a chadwed di: 25 A llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthyt: 26 Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd. 27 Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a’u bendithiaf hwynt.

Next
Numeri 5
Numeri 7
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences