Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Numeri 33  Beibl William Morgan

33 Dyma deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron. 2 A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan yn ôl eu teithiau, wrth orchymyn yr Arglwydd: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan. 3 A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o’r mis cyntaf: trannoeth wedi’r Pasg yr aeth meibion Israel allan â llaw uchel yng ngolwg yr Eifftiaid oll. 4 (A’r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf‐anedig, y rhai a laddasai yr Arglwydd yn eu mysg; a gwnaethai yr Arglwydd farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.) 5 A meibion Israel a gychwynasant o Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth. 6 A chychwynasant o Succoth, a gwersyllasant yn Etham, yr hon sydd yng nghwr yr anialwch. 7 A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi‐hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal‐Seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol. 8 A chychwynasant o Pi‐hahiroth, ac a aethant trwy ganol y môr i’r anialwch; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara. 9 A chychwynasant o Mara, a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno. 10 A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y môr coch. 11 A chychwynasant oddi wrth y môr coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin. 12 Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca. 13 A chychwynasant o Doffca, a gwersyllasant yn Alus. 14 A chychwynasant o Alus, a gwersyllasant yn Reffidim, lle nid oedd dwfr i’r bobl i’w yfed. 15 A chychwynasant o Reffidim, a gwersyllasant yn anialwch Sinai. 16 A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant yn Cibroth‐Hattaafa. 17 A chychwynasant o Cibroth‐Hattaafa, a gwersyllasant yn Haseroth. 18 A chychwynasant o Haseroth, a gwersyllasant yn Rithma. 19 A chychwynasant o Rithma, a gwersyllasant yn Rimmon‐Pares. 20 A chychwynasant o Rimmon‐Pares, a gwersyllasant yn Libna. 21 A chychwynasant o Libna, a gwersyllasant yn Rissa. 22 A chychwynasant o Rissa, a gwersyllasant yn Cehelatha. 23 A chychwynasant o Cehelatha, a gwersyllasant ym mynydd Saffer. 24 A chychwynasant o fynydd Saffer, a gwersyllasant yn Harada. 25 A chychwynasant o Harada, a gwersyllasant ym Maceloth. 26 A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath. 27 A chychwynasant o Tahath, a gwersyllasant yn Tara. 28 A chychwynasant o Tara, a gwersyllasant ym Mithca. 29 A chychwynasant o Mithca, a gwersyllasant yn Hasmona. 30 A chychwynasant o Hasmona, a gwersyllasant ym Moseroth. 31 A chychwynasant o Moseroth, a gwersyllasant yn Bene‐Jaacan. 32 A chychwynasant o Bene‐Jaacan, a gwersyllasant yn Hor‐hagidgad. 33 A chychwynasant o Hor‐hagidgad, a gwersyllasant yn Jotbatha. 34 A chychwynasant o Jotbatha, a gwersyllasant yn Ebrona. 35 A chychwynasant o Ebrona, a gwersyllasant yn Esion‐Gaber. 36 A chychwynasant o Esion‐Gaber, a gwersyllasant yn anialwch Sin; hwnnw yw Cades. 37 A chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwr tir Edom. 38 Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor, wrth orchymyn yr Arglwydd; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft, yn y pumed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis. 39 Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor. 40 A’r brenin Arad, y Canaanead, yr hwn oedd yn trigo yn y deau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion Israel. 41 A chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmona. 42 A chychwynasant o Salmona, a gwersyllasant yn Punon, 43 A chychwynasant o Punon, a gwersyllasant yn Oboth. 44 A chychwynasant o Oboth, a gwersyllasant yn Ije‐Abarim, ar derfyn Moab. 45 A chychwynasant o Ije‐Abarim, a gwersyllasant yn Dibon‐Gad. 46 A chychwynasant o Dibon‐Gad, a gwersyllasant yn Almon‐Diblathaim. 47 A chychwynasant o Almon‐Diblathaim, a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo. 48 A chychwynasant o fynyddoedd Abarim, a gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho. 49 A gwersyllasant wrth yr Iorddonen, o Beth‐Jesimoth hyd wastadedd Sittim, yn rhosydd Moab.

50 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd, 51 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen, i dir Canaan; 52 Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o’ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt. 53 A goresgynnwch y tir, a thrigwch ynddo: canys rhoddais y tir i chwi i’w berchenogi. 54 Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i’r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i’r anaml prinhewch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch. 55 Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o’ch blaen; yna y bydd y rhai a weddillwch ohonynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo. 56 A bydd, megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy, y gwnaf i chwi.

Next
Numeri 32
Numeri 34
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences