Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Numeri 3  Beibl William Morgan

3 Adyma genedlaethau Aaron a Moses, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai. 2 Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y cyntaf‐anedig, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar. 3 Dyma enwau meibion Aaron, yr offeiriaid eneiniog, y rhai a gysegrodd efe i offeiriadu. 4 A marw a wnaeth Nadab ac Abihu gerbron yr Arglwydd, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd, yn anialwch Sinai; a meibion nid oedd iddynt: ac offeiriadodd Eleasar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad.

5 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 6 Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll gerbron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef. 7 A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl. 8 A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a chadwraeth meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl. 9 A thi a roddi’r Lefiaid i Aaron, ac i’w feibion: y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel. 10 Ac urdda di Aaron a’i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a’r dieithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.

11 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 12 Ac wele, mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf‐anedig sef pob cyntaf a agoro’r groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi: 13 Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr Arglwydd.

14 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd 15 Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif hwynt, bob gwryw, o fab misyriad ac uchod. 16 A Moses a’u cyfrifodd hwynt wrth air yr Arglwydd, fel y gorchmynasid iddo. 17 A’r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau; Gerson, a Cohath, a Merari. 18 A dyma enwau meibion Gerson, yn ôl eu teuluoedd; Libni a Simei. 19 A meibion Cohath, yn ôl eu teuluoedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel. 20 A meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd Mahli a Musi. Dyma deuluoedd Lefi, wrth dŷ eu tadau. 21 O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid, a thylwyth y Simiaid: dyma deuluoedd y Gersoniaid. 22 Eu rhifedigion hwynt, dan rif pob gwryw o fab misyriad ac uchod, eu rhifedigion, meddaf, oedd saith mil a phum cant. 23 Teuluoedd y Gersoniaid awersyllantar y tu ôl i’r tabernacl tua’r gorllewin. 24 A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Eliasaff mab Lael. 25 A chadwraeth meibion Gerson, ym mhabell y cyfarfod, fydd y tabernacl, a’r babell, ei tho hefyd, a chaeadlen drws pabell y cyfarfod, 26 A llenni’r cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau i’w holl wasanaeth.

27 Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid, a thylwyth yr Ishariaid, a thylwyth yr Hebroniaid, a thylwyth yr Ussieliaid: dyma dylwyth y Cohathiaid. 28 Rhifedi yr holl wrywiaid, o fab misyriad ac uchod, oedd wyth mil a chwe chant, yn cadw cadwraeth y cysegr. 29 Teuluoedd meibion Cohath awersyllantar ystlys y tabernacl tua’r deau. 30 A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaffan mab Ussiel. 31 A’u cadwraeth hwynt fydd yr arch, a’r bwrdd, a’r canhwyllbren, a’r allorau, a llestri’r cysegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a’r gaeadlen, a’i holl wasanaeth. 32 A phennaf ar benaethiaid y Lefiaid fydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cysegr fydd iddo ef.

33 O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid, a thylwyth y Musiaid: dyma dylwyth Merari. 34 A’u rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwryw, o fab misyriad ac uchod, oedd chwe mil a deucant. 35 A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael. Ar ystlys y tabernacl y gwersyllant tua’r gogledd. 36 Ac yng nghadwraeth meibion Merari y bydd ystyllod y tabernacl, a’i drosolion, a’i golofnau, a’i forteisiau, a’i holl offer, a’i holl wasanaeth, 37 A cholofnau’r cynteddfa o amgylch, a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau.

38 A’r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tua’r dwyrain, o flaen pabell y cyfarfod tua chodiad haul, fydd Moses, ac Aaron a’i feibion, y rhai a gadwant gadwraeth y cysegr, a chadwraeth meibion Israel: a’r dieithr a ddelo yn agos, a roddir i farwolaeth. 39 Holl rifedigion y Lefiaid, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, yn ôl gair yr Arglwydd, trwy eu teuluoedd, sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod, oedd ddwy fil ar hugain.

40 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfrif bob cyntaf‐anedig gwryw o feibion Israel, o fab misyriad ac uchod, a chymer rifedi eu henwau hwynt. 41 A chymer y Lefiaid i mi, (myfi yw yr Arglwydd,) yn lle holl gyntaf‐anedig meibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o anifeiliaid meibion Israel. 42 A Moses a rifodd, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo, bobcyntaf‐anedig o feibion Israel. 43 A’r rhai cyntaf‐anedig oll, o rai gwryw, dan rif eu henwau, o fab misyriad ac uchod, o’u rhifedigion hwynt, oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar ddeg a thrigain.

44 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd, 45 Cymer y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr Arglwydd. 46 Ac am y rhai sydd i’w prynu o’r tri ar ddeg a thrigain a deucant, o gyntaf‐anedig meibion Israel, y rhai sydd dros ben y Lefiaid; 47 Cymer bum sicl am bob pen; yn ôl sicl y cysegr y cymeri. Ugain gera fydd y sicl. 48 A dod yr arian, gwerth y rhai sydd yn ychwaneg ohonynt, i Aaron ac i’w feibion. 49 A chymerodd Moses arian y prynedigaeth, y rhai oedd dros ben y rhai a brynwyd am y Lefiaid: 50 Gan gyntaf‐anedig meibion Israel y cymerodd efe yr arian; pump a thrigain a thri chant a mil, o siclau y cysegr. 51 A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac i’w feibion, yn ôl gair yr Arglwydd, megis y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses.

Next
Numeri 2
Numeri 4
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences