Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Numeri 29  Beibl William Morgan

29 Ac yn y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi gymanfa sanctaidd; dim caethwaith nis gwnewch: dydd i ganu utgyrn fydd efe i chwi. 2 Ac offrymwch offrwm poeth yn arogl peraidd i’r Arglwydd; un bustach ieuanc, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid perffaith‐gwbl: 3 A’u bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd; 4 Ac un ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen: 5 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth, i wneuthur cymod drosoch: 6 Heblaw poethoffrwm y mis, a’i fwyd‐offrwm, a’r poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.

7 Ac ar y degfed dydd o’r seithfed mis hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo. 8 Ond offrymwch boethoffrwm i’r Arglwydd, yn arogl peraidd, un bustach ieuanc, un hwrdd, saith oen blwyddiaid: byddant berffaith‐gwbl gennych. 9 A’u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd; 10 Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen: 11 Un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw pech‐aberth y cymod, a’r poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, a’u diod‐offrymau.

12 Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch; eithr cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod. 13 Ac offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd; tri ar ddeg o fustych ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid: byddant berffaith‐gwbl. 14 A’u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, o’r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd, o’r ddau hwrdd; 15 A phob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r pedwar oen ar ddeg: 16 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.

17 Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddeuddeng mustach ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 18 A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 19 Ac un bwch geifr, yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm a’u diod‐offrymau.

20 Ac ar y trydydd dydd, un bustach ar ddeg, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl: 21 A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 22 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.

23 Ac ar y pedwerydd dydd, deng mustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl: 24 Eu bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 25 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.

26 Ac ar y pumed dydd, naw bustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 27 A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod; 28 Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.

29 Ac ar y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 30 A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 31 Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.

32 Ac ar y seithfed dydd, saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 33 A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth eu defod: 34 Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.

35 Ar yr wythfed dydd, uchel ŵyl fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch ynddo. 36 Ond offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd; un bustach, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 37 Eu bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustach, a chyda’r hwrdd, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 38 Ac un bwch yn bech‐aberth: heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm. 39 Hyn a wnewch i’r Arglwydd ar eich gwyliau; heblaw eich addunedau, a’ch offrymau gwirfodd, gyda’ch offrymau poeth, a’ch offrymau bwyd, a’ch offrymau diod, a’ch offrymau hedd. 40 A dywedodd Moses wrth feibion Israel yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

Next
Numeri 28
Numeri 30
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences