Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Numeri 27  Beibl William Morgan

27 Yna y daeth merched Salffaad, mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth Manasse mab Joseff; (a dyma enwau ei ferched ef; Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa;) 2 Ac a safasant gerbron Moses, a cherbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron y penaethiaid, a’r holl gynulleidfa, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gan ddywedyd, 3 Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch; ac nid oedd efe ymysg y gynulleidfa a ymgasglodd yn erbyn yr Arglwydd yng nghynulleidfa Cora, ond yn ei bechod ei hun y bu farw; ac nid oedd meibion iddo. 4 Paham y tynnir ymaith enw ein tad ni o fysg ei dylwyth, am nad oes iddo fab? Dod i ni feddiant ymysg brodyr ein tad. 5 A dug Moses eu hawl hwynt gerbron yr Arglwydd.

6 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 7 Y mae merched Salffaad yn dywedyd yn uniawn; gan roddi dyro iddynt feddiant etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad: trosa iddynt etifeddiaeth eu tad. 8 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo marw un, ac heb fab iddo, troswch ei etifeddiaeth ef i’w ferch. 9 Ac oni bydd merch iddo, rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w frodyr. 10 Ac oni bydd brodyr iddo; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad. 11 Ac oni bydd brodyr i’w dad; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i’w gâr nesaf iddo o’i dylwyth; a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dring i’r mynydd Abarim hwn, a gwêl y tir a roddais i feibion Israel. 13 Ac wedi i ti ei weled, tithau a gesglir at dy bobl, fel y casglwyd Aaron dy frawd. 14 Canys yn anialwch Sin, wrth gynnen y gynulleidfa, y gwrthryfelasoch yn erbyn fy ngair, i’m sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt: dyma ddwfr cynnen Cades, yn anialwch Sin.

15 A llefarodd Moses wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 16 Gosoded yr Arglwydd, Duw ysbrydion pob cnawd, un ar y gynulleidfa, 17 Yr hwn a elo allan o’u blaen hwynt, ac a ddelo i mewn o’u blaen hwynt, a’r hwn a’u dygo hwynt allan, ac a’u dygo hwynt i mewn; fel na byddo cynulleidfa’r Arglwydd fel defaid ni byddo bugail arnynt.

18 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymer atat Josua mab Nun, y gŵr y mae yr ysbryd ynddo, a gosod dy law arno; 19 A dod ef i sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa; a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt. 20 A dod o’th ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynulleidfa meibion Israel arno. 21 A safed gerbron Eleasar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gyngor drosto ef, yn ôl barn Urim, gerbron yr Arglwydd: wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gydag ef, a’r holl gynulleidfa. 22 A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: ac a gymerodd Josua, ac a barodd iddo sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa. 23 Ac efe a osododd ei ddwylo arno, ac a roddodd orchymyn iddo; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.

Next
Numeri 26
Numeri 28
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences