Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Numeri 2  Beibl William Morgan

2 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, 2 Meibion Israel a wersyllant bob un wrth ei luman ei hun, dan arwyddion tŷ eu tadau: o amgylch pabell y cyfarfod y gwersyllant o hirbell.

3 A’r rhai a wersyllant o du’r dwyrain tua chodiad haul, fydd gwŷr lluman gwersyll Jwda, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Jwda fydd Nahson mab Aminadab. 4 A’i lu ef, a’u rhai rhifedig hwynt, fyddant bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant. 5 A llwyth Issachar a wersyllant yn nesaf ato: a chapten meibion Issachar fydd Nethaneel mab Suar. 6 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant. 7 Yna llwyth Sabulon: ac Elïab mab Helon fydd capten meibion Sabulon. 8 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant. 9 Holl rifedigion gwersyll Jwda fyddant yn ôl eu lluoedd, yn gan mil aphedwarugain mil a chwe mil a phedwar cant. Yn flaenaf y cychwyn y rhai hyn.

10 Lluman gwersyll Reuben fydd tua’r deau, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Reuben fydd Elisur mab Sedeur. 11 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant chwe mil a deugain a phum cant. 12 A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Simeon: a chapten meibion Simeon fydd Selumiel mab Surisadai. 13 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fydd onid un trigain mil a thri chant. 14 Yna llwyth Gad: a chapten meibion Gad fydd Eliasaff mab Reuel. 15 A’i lu ef, a’u rhifedigion hwynt, fyddant bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain. 16 Holl rifedigion gwersyll Reuben fyddant gan mil ac un ar ddeg a deugain o filoedd, a phedwar cant a deg a deugain, yn ôl eu lluoedd. Ac yn ail y cychwynnant hwy.

17 A phabell y cyfarfod a gychwyn yng nghanol y gwersylloedd, gyda gwersyll y Lefiaid: fel y gwersyllant, felly y symudant, pob un yn ei le, wrth eu llumanau.

18 Lluman gwersyll Effraim fydd tua’r gorllewin, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Effraim fydd Elisama mab Ammihud. 19 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeugain mil a phum cant. 20 Ac yn ei ymyl ef llwyth Manasse; a chapten meibion Manasse fydd Gamaliel mab Pedasur. 21 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeuddeng mil ar hugain a dau gant. 22 Yna llwyth Benjamin: a chapten meibion Benjamin fydd Abidan mab Gideoni. 23 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant bymtheng mil ar hugain a phedwar cant. 24 Holl rifedigion gwersyll Effraim fyddant, yn ôl eu lluoedd, gan mil ac wyth mil a chant. Ac a gychwynnant yn drydydd.

25 Lluman gwersyll Dan fydd tua’r gogledd, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Dan fydd Ahieser mab Ammisadai. 26 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddwy fil a thrigain a saith gant. 27 A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Aser: a chapten meibion Aser fydd Pagiel mab Ocran. 28 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant un fil a deugain a phum cant. 29 Yna llwyth Nafftali: a chapten meibion Nafftali fydd Ahira mab Enan. 30 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant. 31 Holl rifedigion gwersyll Dan fyddant gan mil ac onid tair mil trigain mil a chwe chant. Yn olaf y cychwynnant â’u llumanau.

32 Dyma rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau. Holl rifedigion y gwersylloedd, yn ôl eu lluoedd, oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain. 33 Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ymysg meibion Israel; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 34 A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses: felly y gwersyllasant wrth eu llumanau, ac felly y cychwynasant, bob un yn ei deuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau.

Next
Numeri 1
Numeri 3
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences