Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Numeri 19  Beibl William Morgan

19 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd. 2 Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt atat anner goch berffaith‐gwbl, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni. 3 A rhoddwch hi at Eleasar yr offeiriad: a phared efe ei dwyn hi o’r tu allan i’r gwersyll; a lladded un hi ger ei fron ef. 4 A chymered Eleasar yr offeiriad beth o’i gwaed hi ar ei fys, a thaenelled o’i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith. 5 A llosged un yr anner yn ei olwg ef: ei chroen, a’i chig, a’i gwaed, ynghyd â’i biswail, a lysg efe. 6 A chymered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i ganol llosgfa yr anner. 7 A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i’r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr. 8 Felly golched yr hwn a’i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr. 9 A chasgled un glân ludw yr anner, a gosoded o’r tu allan i’r gwersyll mewn lle glân; a bydded yng nghadw i gynulleidfa meibion Israel, yn ddwfr neilltuaeth pech‐aberth yw. 10 A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr: a bydd hyn i feibion Israel, ac i’r dieithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn ddeddf dragwyddol.

11 A gyffyrddo â chorff marw dyn, aflan fydd saith niwrnod. 12 Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a’r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanha efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd. 13 Pob un a gyffyrddo â chorff marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neilltuaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd eto arno. 14 Dyma’r gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i’r babell, a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod. 15 A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan yw efe. 16 Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, ag un wedi ei ladd â chleddyf, neu ag un marw, neu ag asgwrn dyn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod. 17 Cymerant dros yr aflan o ludw llosg yr offrwm dros bechod; a rhodder ato ddwfr rhedegog mewn llestr; 18 A chymered isop, a golched un dihalogedig ef mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd ag asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd: 19 A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a’r seithfed dydd; ac ymlanhaed efe y seithfed dydd, a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr. 20 Ond y gŵr a haloger, ac nid ymlanhao torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynulleidfa: canys efe a halogodd gysegr yr Arglwydd, ni thaenellwyd arno ddwfr y neilltuaeth; aflan yw efe. 21 A bydd iddynt yn ddeddf dragwyddol bod i’r hwn a daenello ddwfr y neilltuaeth, olchi ei ddillad; a’r hwn a gyffyrddo â dwfr y neilltuaeth, a fydd aflan hyd yr hwyr. 22 A’r hyn oll a gyffyrddo yr aflan ag ef, fydd aflan: a’r dyn a gyffyrddo â hynny, fydd aflan hyd yr hwyr.

Next
Numeri 18
Numeri 20
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences