Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Numeri 18  Beibl William Morgan

18 Adywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a’th feibion, a thylwyth dy dad gyda thi, a ddygwch anwiredd y cysegr: a thi a’th feibion gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth. 2 A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i lynu wrthyt ti, ac i’th wasanaethu: tithau a’th feibion gyda thi a wasanaethwch gerbron pabell y dystiolaeth. 3 A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cysegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd. 4 Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch. 5 Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel. 6 Ac wele, mi a gymerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i’r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod. 7 Tithau a’th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i’r allor, ac o fewn y llen wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi; a’r dieithr a ddelo yn agos, a leddir.

8 A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael, o holl gysegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, oherwydd yr eneiniad, ac i’th feibion, trwy ddeddf dragwyddol. 9 Hyn fydd i ti o’r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o’r tân: eu holl offrymau hwynt, eu holl fwyd‐offrwm, a’u holl aberthau dros bechod, a’u holl aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i’th feibion. 10 O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef; pob gwryw a’i bwyty ef: cysegredig fydd efe i ti. 11 Hyn hefyd fydd i ti; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl offrymau cyhwfan meibion Israel: i ti y rhoddais hwynt, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwyta ohono. 12 Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a’r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i’r Arglwydd, a roddais i ti. 13 Blaenffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i’r Arglwydd, fydd eiddot ti: pob un glân yn dy dŷ a fwyty ohono. 14 Pob diofryd‐beth yn Israel fydd eiddot ti. 15 Pob peth a agoro’r groth o bob cnawd yr hwn a offrymir i’r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf‐anedig i ddyn; a phrŷn y cyntaf‐anedig i’r anifail aflan. 16 A phâr brynu y rhai a bryner ohonot o fab misyriad, yn dy bris di, er pum sicl o arian, wrth sicl y cysegr: ugain gera yw hynny. 17 Ond na phrŷn y cyntaf‐anedig o eidion, neu gyntaf‐anedig dafad, neu gyntaf‐anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a’u gwêr a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 18 Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddeau, y mae yn eiddot ti. 19 Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymo meibion Israel i’r Arglwydd, a roddais i ti, ac i’th feibion, ac i’th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: cyfamod halen tragwyddol fydd hyn, gerbron yr Arglwydd, i ti, ac i’th had gyda thi.

20 A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: myfi yw dy ran di, a’th etifeddiaeth, ymysg meibion Israel. 21 Ac wele, mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel, yn etifeddiaeth, am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu sef gwasanaeth pabell y cyfarfod. 22 Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw. 23 Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ymysg meibion Israel. 24 Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymant yn offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, a roddais i’r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais wrthynt, nad etifeddent etifeddiaeth ymysg meibion Israel.

25 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 26 Llefara hefyd wrth y Lefiaid, a dywed wrthynt, Pan gymeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymwch o hynny offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, sef degwm o’r degwm. 27 A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael, fel yr ŷd o’r ysgubor, ac fel cyflawnder o’r gwinwryf. 28 Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i’r Arglwydd, o’ch holl ddegymau a gymeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad. 29 O’ch holl roddion offrymwch bob offrwm dyrchafael yr Arglwydd o bob gorau ohono, sef y rhan gysegredig, allan ohono ef. 30 A dywed wrthynt, Pan ddyrchafoch ei oreuon allan ohono, cyfrifir i’r Lefiaid fel toreth yr ysgubor, a thoreth y gwinwryf. 31 A bwytewch ef ym mhob lle, chwi a’ch tylwyth: canys gwobr yw efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod. 32 Ac ni ddygwch bechod o’i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon ohono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.

Next
Numeri 17
Numeri 19
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences