Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Numeri 16  Beibl William Morgan

16 Yna Cora, mab Ishar, mab Cohath, mab Lefi; a Dathan ac Abiram, meibion Elïab, ac On mab Peleth, meibion Reuben, a gymerasant wŷr: 2 A hwy a godasant o flaen Moses, ynghyd â dau cant a deg a deugain o wŷr eraill o feibion Israel, penaethiaid y gynulleidfa, pendefigion y gymanfa, gwŷr enwog. 3 Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynulleidfa yn sanctaidd bob un ohonynt, ac y mae yr Arglwydd yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynulleidfa yr Arglwydd? 4 A phan glybu Moses, efe a syrthiodd ar ei wyneb. 5 Ac efe a lefarodd wrth Cora, ac wrth ei holl gynulleidfa ef, gan ddywedyd, Y bore y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef, a’r sanctaidd; a phwy a ddylai nesáu ato ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesâ efe ato. 6 Hyn a wnewch: Cymerwch i chwi, sef Cora a’i holl gynulleidfa, thuserau; 7 A rhoddwch ynddynt dân, agosodwcharnynt arogl‐darth yfory gerbron yr Arglwydd: yna bydd i’r gŵr hwnnw fod yn sanctaidd, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd: gormod i chwi hyn, meibion Lefi. 8 A dywedodd Moses wrth Cora, Gwrandewch, atolwg, meibion Lefi. 9 Ai bychan gennych neilltuo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynulleidfa Israel, gan eich nesáu chwi ato ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd, ac i sefyll gerbron y gynulleidfa, i’w gwasanaethu hwynt? 10 Canys efe a’th nesaodd di, a’th holl frodyr, meibion Lefi, gyda thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd? 11 Am hynny tydi a’th holl gynulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aaron, beth yw efe, i chwi i duchan yn ei erbyn?

12 A Moses a anfonodd i alw am Dathan ac Abiram, meibion Elïab. Hwythau a ddywedasant, Ni ddeuwn ni ddim i fyny. 13 Ai bychan yw dwyn ohonot ti ni i fyny o dir yn llifeirio o laeth a mêl, i’n lladd ni yn y diffeithwch, oddieithr hefyd arglwyddiaethu ohonot yn dost arnom ni? 14 Eto ni ddygaist ni i dir yn llifeirio o laeth a mêl, ac ni roddaist i ni feddiant mewn maes na gwinllan: a dynni di lygaid y gwŷr hyn? ni ddeuwn ni i fyny ddim. 15 Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr Arglwydd, Nac edrych ar eu hoffrwm hwy: ni chymerais un asyn oddi arnynt, ac ni ddrygais un ohonynt. 16 A dywedodd Moses wrth Cora, Bydd di a’th holl gynulleidfa gerbron yr Arglwydd, ti, a hwynt, ac Aaron, yfory. 17 A chymerwch bob un ei thuser, a rhoddwch arnynt arogl‐darth; a dyged pob un ei thuser gerbron yr Arglwydd, sef dau cant a deg a deugain o thuserau: dwg dithau hefyd, ac Aaron, bob un ei thuser. 18 A chymerasant bob un ei thuser, a rhoddasant dân ynddynt, a gosodasant arogl‐darth arnynt; a safasant wrth ddrws pabell y cyfarfod, ynghyd â Moses ac Aaron. 19 Yna Cora a gasglodd yr holl gynulleidfa yn eu herbyn hwynt, i ddrws pabell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i’r holl gynulleidfa 20 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, 21 Ymneilltuwch o fysg y gynulleidfa hon, a mi a’u difâf hwynt ar unwaith. 22 A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysbrydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynulleidfa

23 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd. 24 Llefara wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Cora, Dathan, ac Abiram. 25 A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef. 26 Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, atolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o’r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt. 27 Yna yr aethant oddi wrth babell Cora, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a’u meibion, a’u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll. 28 A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a’m hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o’m meddwl fy hun y gwneuthum hwynt. 29 Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr Arglwydd a’m hanfonodd i. 30 Ond os yr Arglwydd a wna newyddbeth, fel yr agoro’r ddaear ei safn, a’u llyncu hwynt, a’r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr Arglwydd.

31 A bu, wrth orffen ohono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o’r ddaear oedd danynt hwy. 32 Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyncodd hwynt, a’u tai hefyd, a’r holl ddynion oedd gan Cora, a’u holl gyfoeth. 33 A hwynt, a’r rhai oll a’r a oedd gyda hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a’r ddaear a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa. 34 A holl Israel, y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i’r ddaear ein llyncu ninnau. 35 Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a’r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl‐darth.

36 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 37 Dywed wrth Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, am godi ohono efe y thuserau o fysg y llosg; a gwasgara y tân oddi yno allan: canys sanctaidd ydynt: 38 Sef thuserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain, i fod yn gaead i’r allor; canys offrymasant hwynt gerbron yr Arglwydd; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion Israel. 39 A chymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, â’r rhai yr offrymasai y gwŷr a losgasid; ac estynnwyd hwynt yn gaead i’r allor: 40 Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesao gŵr dieithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl‐darth gerbron yr Arglwydd; ac na byddo fel Cora a’i gynulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.

41 A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd. 42 A bu, wedi ymgasglu o’r gynulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych ohonynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd. 43 Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.

44 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 45 Ciliwch o blith y gynulleidfa hon, a mi a’u difâf hwynt yn ddisymwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.

46 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymer thuser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl‐darth arni, a dos yn fuan at y gynulleidfa, a gwna gymod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd; dechreuodd y pla. 47 A chymerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynulleidfa ac wele, dechreuasai y pla ar y bobl: ac efe a rodd arogl‐darth, ac a wnaeth gymod dros y bobl. 48 Ac efe a safodd rhwng y meirw a’r byw; a’r pla a ataliwyd. 49 A’r rhai a fuant feirw o’r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant, heblaw y rhai a fuant feirw yn achos Cora. 50 A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a’r pla a ataliwyd

Next
Numeri 15
Numeri 17
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences