Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Numeri 13  Beibl William Morgan

13 Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Anfon i ti wŷr i edrych tir Canaan, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel: gŵr dros bob un o lwythau eu tadau a anfonwch; pob un yn bennaeth yn eu mysg hwynt. 3 A Moses a’u hanfonodd hwynt o anialwch Paran, wrth orchymyn yr Arglwydd: penaethiaid meibion Israel oedd y gwŷr hynny oll. 4 A dyma eu henwau hwynt. Dros lwyth Reuben, Sammua mab Saccur. 5 Dros lwyth Simeon, Saffat mab Hori. 6 Dros lwyth Jwda, Caleb mab Jeffunne. 7 Dros lwyth Issachar, Igal mab Joseff. 8 Dros lwyth Effraim, Osea mab Nun. 9 Dros lwyth Benjamin, Palti mab Raffu. 10 Dros lwyth Sabulon, Gadiel mab Sodi. 11 O lwyth Joseff, dros lwyth Manasse, Gadi mab Susi. 12 Dros lwyth Dan, Amiel mab Gemali. 13 Dros lwyth Aser, Sethur mab Michael. 14 Dros lwyth Nafftali, Nahbi mab Foffsi. 15 Dros lwyth Gad, Geuel mab Maci. 16 Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych ansawdd y wlad. A Moses a enwodd Osea mab Nun, Josua.

17 A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan; ac a ddywedodd wrthynt, Ewch yma tua’r deau, a dringwch i’r mynydd. 18 Ac edrychwch y wlad beth yw hi, a’r bobl sydd yn trigo ynddi, pa un ai cryf ai gwan, ai ychydig ai llawer ydynt: 19 A pheth yw y tir y maent yn trigo ynddo, ai da ai drwg; ac ym mha ddinasoedd y maent yn preswylio, ai mewn pebyll, ai mewn amddiffynfeydd; 20 A pha dir, ai bras yw efe ai cul; a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A’r dyddiau oeddynt ddyddiau blaenffrwyth grawnwin.

21 A hwy a aethant i fyny, ac a chwiliasant y tir, o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath. 22 Ac a aethant i fyny i’r deau, ac a ddaethant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac. (A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aifft.) 23 A daethant hyd ddyffryn Escol; a thorasant oddi yno gangen ag un swp o rawnwin, ac a’i dygasant ar drosol rhwng dau: dygasant rai o’r pomgranadau hefyd, ac o’r ffigys. 24 A’r lle hwnnw a alwasant dyffryn Escol; o achos y swp grawnwin a dorrodd meibion Israel oddi yno. 25 A hwy a ddychwelasant o chwilio’r wlad ar ôl deugain niwrnod.

26 A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynulleidfa meibion Israel, i Cades, yn anialwch Paran; a dygasant yn eu hôl air iddynt, ac i’r holl gynulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir. 27 A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddiau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef. 28 Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a’r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac. 29 Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y deau; a’r Hethiaid, a’r Jebusiaid, a’r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd‐dir; a’r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr, a cherllaw yr Iorddonen. 30 A gostegodd Caleb y bobl gerbron Moses, ac a ddywedodd, Gan fyned awn i fyny, a pherchenogwn hi: canys gan orchfygu y gorchfygwn hi. 31 Ond y gwŷr y rhai a aethant i fyny gydag ef a ddywedasant, Ni allwn ni fyned i fyny yn erbyn y bobl; canys cryfach ydynt na nyni. 32 A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent, wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, tir yn difa ei breswylwyr yw efe; a’r holl bobl a welsom ynddo ydynt wŷr corffol: 33 Ac yno y gwelsom y cewri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o’r cewri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.

Next
Numeri 12
Numeri 14
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences