Add parallel Print Page Options

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o’r ail fis, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dir yr Aifft, gan ddywedyd, Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, yn ôl eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, pob gwryw wrth eu pennau; O fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel: ti ac Aaron a’u cyfrifwch hwynt yn ôl eu lluoedd. A bydded gyda chwi ŵr o bob llwyth; sef y gŵr pennaf o dŷ ei dadau.

A dyma enwau’r gwŷr a safant gyda chwi. O lwyth Reuben; Elisur mab Sedeur. O lwyth Simeon; Selumiel mab Surisadai. O lwyth Jwda; Nahson mab Aminadab. O lwyth Issachar; Nethaneel mab Suar. O lwyth Sabulon; Elïab mab Helon. 10 O feibion Joseff: dros Effraim, Elisama mab Ammihud; dros Manasse, Gamaliel mab Pedasur. 11 O lwyth Benjamin; Abidan mab Gideoni. 12 O lwyth Dan; Ahieser mab Ammisadai. 13 O lwyth Aser; Pagiel mab Ocran. 14 O lwyth Gad; Elisaff mab Deuel. 15 O lwyth Nafftali; Anira mab Enan. 16 Dyma rai enwog y gynulleidfa, tywysogion llwythau eu tadau,penaethiaid miloedd Israel oeddynt hwy.

17 A chymerodd Moses ac Aaron y gwŷr hyn a hysbysasid wrth eu henwau; 18 Ac a gasglasant yr holl gynulleidfa ynghyd ar y dydd cyntaf o’r ail fis; a rhoddasant eu hachau, trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, erbyn eu pennau. 19 Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y rhifodd efe hwynt yn anialwch Sinai.

20 A meibion Reuben, cyntaf‐anedig Israel, wrth eu cenedl eu hun, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a allai fyned i ryfel; 21 Y rhai a rifwyd ohonynt, sef o lwyth Reuben, oedd chwe mil a deugain a phum cant.

22 O feibion Simeon, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, eu rhifedigion oedd, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod, sef pob un a’r a allai fyned i ryfel; 23 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Simeon, oedd onid un fil trigain mil a thri chant.

24 O feibion Gad, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu lluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allai fyned i ryfel; 25 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Gad, oeddynt bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain.

26 O feibion Jwda, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pawb a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 27 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Jwda, oedd bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant.

28 O feibion Issachar, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 29 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Issachar, oedd bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

30 O feibion Sabulon, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel; 31 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Sabulon, oedd ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant.

32 O feibion Joseff, sef o feibion Effraim, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel; 33 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Effraim, oedd ddeugain mil a phum cant.

34 O feibion Manasse, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 35 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Manasse, oedd ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.

36 O feibion Benjamin, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 37 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Benjamin, oedd bymtheg mil ar hugain a phedwar cant.

38 O feibion Dan, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 39 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Dan, oeddynt ddwy fil a thrigain a saith gant.

40 O feibion Aser, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 41 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Aser, oeddynt un fil a deugain a phum cant.

42 O feibion Nafftali, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel; 43 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Nafftali, oedd dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant. 44 Dyma’r rhifedigion, y rhai a rifodd Moses, ac Aaron, a thywysogion Israel; sef y deuddengwr, y rhai oedd bob un dros dŷ eu tadau. 45 Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn Israel; 46 A’r holl rifedigion oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.

47 Ond y Lefiaid, trwy holl lwythau eu tadau, ni rifwyd yn eu mysg hwynt: 48 Canys llefarasai yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 49 Ond na chyfrif lwyth Lefi, ac na chymer eu nifer hwynt, ymysg meibion Israel. 50 Ond dod i’r Lefiaid awdurdod ar babell y dystiolaeth, ac ar ei holl ddodrefn ac ar yr hyn oll a berthyn iddi: hwynt‐hwy a ddygant y babell, a’i holl ddodrefn, ac a’i gwasanaethant, ac a wersyllant o amgylch i’r babell. 51 A phan symudo’r babell, y Lefiaid a’i tyn hi i lawr; a phan arhoso’r babell, y Lefiaid a’i gesyd hi i fyny: lladder y dieithr a ddelo yn agos. 52 A gwersylled meibion Israel bob un yn ei wersyll ei hun, a phob un wrth ei luman ei hun, trwy eu lluoedd. 53 A’r Lefiaid a wersyllant o amgylch pabell y dystiolaeth, fel na byddo llid yn erbyn cynulleidfa meibion Israel: a chadwed y Lefiaid wyliadwriaeth pabell y dystiolaeth. 54 A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.