Add parallel Print Page Options

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneilltuo gŵr neu wraig i addo adduned Nasaread, i ymneilltuo i’r Arglwydd: Ymneilltued oddi wrth win a diod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr diod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytaed rawnwin irion, na sychion. Holl ddyddiau ei Nasareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o’r dincod hyd y bilionen. Holl ddyddiau adduned ei Nasareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni’r dyddiau yr ymneilltuodd efe i’r Arglwydd, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu. Holl ddyddiau ei ymneilltuaeth i’r Arglwydd, na ddeued at gorff marw. Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am fod Nasareaeth ei Dduw ar ei ben ef. Holl ddyddiau ei Nasareaeth,sanctaidd fydd efe i’r Arglwydd. Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymwth, a halogi pen ei Nasareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef. 10 Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod. 11 Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, a gwnaed gymod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw. 12 A neilltued i’r Arglwydd ddyddiau ei Nasareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd; ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nasareaeth ef.

13 A dyma gyfraith y Nasaread: pan gyflawner dyddiau ei Nasareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod. 14 A dyged yn offrwm drosto i’r Arglwydd, un hesbwrn blwydd,perffaith‐gwbl yn boethoffrwm; ac un hesbin flwydd, berffaith‐gwbl, yn bech‐aberth; ac un hwrdd perffaith‐gwbl, yn aberth hedd; 15 Cawellaid o fara croyw hefyd, sef teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy olew, ac afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm hwy. 16 A dyged yr offeiriad hwynt gerbron yr Arglwydd, ac offrymed ei bech‐aberth a’i boethoffrwm ef. 17 Offrymed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i’r Arglwydd, ynghyd â’r cawellaid bara croyw; ac offrymed yr offeiriad ei fwyd‐offrwm a’i ddiod‐offrwm ef. 18 Ac eillied y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nasareaeth; a chymered flew pen ei Nasareaeth, a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd. 19 Cymered yr offeiriad hefyd balfais o’r hwrdd wedi ei berwi, ac un deisen groyw o’r cawell, ac un afrlladen groyw; a rhodded ar ddwylo’r Nasaread, wedi eillio ohono ei Nasareaeth; 20 A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: sanctaidd yw hyn i’r offeiriad, heblaw parwyden y cyhwfan, a phalfais y dyrchafael. Ac wedi hyn y caiff y Nasaread yfed gwin. 21 Dyma gyfraith y Nasaread a addunedodd, a’i offrwm i’r Arglwydd am ei Nasareaeth, heblaw yr hyn a gyrhaeddo ei law ef: fel y byddo ei adduned a addunedo, felly gwnaed, heblaw cyfraith ei Nasareaeth.

22 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 23 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt, 24 Bendithied yr Arglwydd di, a chadwed di: 25 A llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthyt: 26 Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd. 27 Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a’u bendithiaf hwynt.

The Nazirite

The Lord said to Moses, “Speak to the Israelites and say to them: ‘If a man or woman wants to make a special vow(A), a vow of dedication(B) to the Lord as a Nazirite,(C) they must abstain from wine(D) and other fermented drink and must not drink vinegar(E) made from wine or other fermented drink. They must not drink grape juice or eat grapes(F) or raisins. As long as they remain under their Nazirite vow, they must not eat anything that comes from the grapevine, not even the seeds or skins.

“‘During the entire period of their Nazirite vow, no razor(G) may be used on their head.(H) They must be holy until the period of their dedication to the Lord is over; they must let their hair grow long.

“‘Throughout the period of their dedication to the Lord, the Nazirite must not go near a dead body.(I) Even if their own father or mother or brother or sister dies, they must not make themselves ceremonially unclean(J) on account of them, because the symbol of their dedication to God is on their head. Throughout the period of their dedication, they are consecrated to the Lord.

“‘If someone dies suddenly in the Nazirite’s presence, thus defiling the hair that symbolizes their dedication,(K) they must shave their head on the seventh day—the day of their cleansing.(L) 10 Then on the eighth day(M) they must bring two doves or two young pigeons(N) to the priest at the entrance to the tent of meeting.(O) 11 The priest is to offer one as a sin offering[a](P) and the other as a burnt offering(Q) to make atonement(R) for the Nazirite because they sinned by being in the presence of the dead body. That same day they are to consecrate their head again. 12 They must rededicate themselves to the Lord for the same period of dedication and must bring a year-old male lamb(S) as a guilt offering.(T) The previous days do not count, because they became defiled during their period of dedication.

13 “‘Now this is the law of the Nazirite when the period of their dedication is over.(U) They are to be brought to the entrance to the tent of meeting.(V) 14 There they are to present their offerings to the Lord: a year-old male lamb without defect(W) for a burnt offering, a year-old ewe lamb without defect for a sin offering,(X) a ram(Y) without defect for a fellowship offering,(Z) 15 together with their grain offerings(AA) and drink offerings,(AB) and a basket of bread made with the finest flour and without yeast—thick loaves with olive oil mixed in, and thin loaves brushed with olive oil.(AC)

16 “‘The priest is to present all these(AD) before the Lord(AE) and make the sin offering and the burnt offering.(AF) 17 He is to present the basket of unleavened bread and is to sacrifice the ram as a fellowship offering(AG) to the Lord, together with its grain offering(AH) and drink offering.(AI)

18 “‘Then at the entrance to the tent of meeting, the Nazirite must shave off the hair that symbolizes their dedication.(AJ) They are to take the hair and put it in the fire that is under the sacrifice of the fellowship offering.

19 “‘After the Nazirite has shaved off the hair that symbolizes their dedication, the priest is to place in their hands a boiled shoulder of the ram, and one thick loaf and one thin loaf from the basket, both made without yeast.(AK) 20 The priest shall then wave these before the Lord as a wave offering;(AL) they are holy(AM) and belong to the priest, together with the breast that was waved and the thigh that was presented.(AN) After that, the Nazirite may drink wine.(AO)

21 “‘This is the law of the Nazirite(AP) who vows offerings to the Lord in accordance with their dedication, in addition to whatever else they can afford. They must fulfill the vows(AQ) they have made, according to the law of the Nazirite.’”

The Priestly Blessing

22 The Lord said to Moses, 23 “Tell Aaron and his sons, ‘This is how you are to bless(AR) the Israelites. Say to them:

24 “‘“The Lord bless you(AS)
    and keep you;(AT)
25 the Lord make his face shine on you(AU)
    and be gracious to you;(AV)
26 the Lord turn his face(AW) toward you
    and give you peace.(AX)”’

27 “So they will put my name(AY) on the Israelites, and I will bless them.”

Footnotes

  1. Numbers 6:11 Or purification offering; also in verses 14 and 16