Add parallel Print Page Options

22 Ameibion Israel a gychwynasant, ac a wersyllasant yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho.

A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i’r Amoriaid. As ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr; canys llawer oedd: a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel. A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian, Y gynulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyf yr ych wellt y maes. A Balac mab Sippor oedd frenin ar Moab yn yr amser hwnnw. Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl,) i’w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele bobl a ddaeth allan o’r Aifft: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i. Yr awr hon, gan hynny, tyred, atolwg, melltithia i mi y bobl yma; canys cryfach ydynt na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a’u gyrru hwynt o’r tir: canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di, a melltigedig fydd yr hwn a felltithiech. A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, â gwobr dewiniaeth yn eu dwylo: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac. A dywedodd yntau wrthynt, Lletywch yma heno; a rhoddaf i chwi ateb megis y llefaro yr Arglwydd wrthyf. A thywysogion Moab a arosasant gyda Balaam. A daeth Duw at Balaam, ac a ddywedodd Pwy yw y dynion hyn sydd gyda thi? 10 A dywedodd Balaam wrth Dduw, Balac mab Sippor, brenin Moab, a ddanfonodd ataf, gan ddywedyd, 11 Wele bobl wedi dyfod allan o’r Aifft, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a’u gyrru allan. 12 A dywedodd Duw wrth Balaam, Na ddos gyda hwynt; na felltithia’r bobl: canys bendigedig ydynt. 13 A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i’ch gwlad: oblegid yr Arglwydd a nacaodd adael i mi fyned gyda chwi. 14 A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Nacaodd Balaam ddyfod gyda ni.

15 A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na’r rhai hyn. 16 A hwy a ddaethant at Balaam; ac a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywed Balac mab Sippor; Atolwg, na luddier di rhag dyfod ataf: 17 Canys gan anrhydeddu y’th anrhydeddaf yn fawr; a’r hyn oll a ddywedech wrthyf, a wnaf: tyred dithau, atolwg, rhega i mi y bobl hyn. 18 A Balaam a atebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac, Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn fyned dros air yr Arglwydd fy Nuw, i wneuthur na bychan na mawr. 19 Ond, atolwg, yn awr, arhoswch chwithau yma y nos hon; fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr Arglwydd wrthyf yn ychwaneg. 20 A daeth Duw at Balaam liw nos, a dywedodd wrtho, Os i’th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfod, dos gyda hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt, hynny a wnei di. 21 Yna y cododd Balaam yn fore, ac a gyfrwyodd ei asen, ac a aeth gyda thywysogion Moab.

22 A dig Duw a enynnodd, am iddo ef fyned: ac angel yr Arglwydd a safodd ar y ffordd i’w wrthwynebu ef; ac efe yn marchogaeth ar ei asen, a’i ddau lanc gydag ef. 23 A’r asen a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf yn noeth yn ei law: a chiliodd yr asen allan o’r ffordd, ac a aeth i’r maes: a thrawodd Balaam yr asen, i’w throi i’r ffordd. 24 Ac angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllannoedd, a magwyr o’r ddeutu. 25 Pan welodd yr asen angel yr Arglwydd, yna hi a ymwasgodd at y fagwyr; ac a wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr: ac efe a’i trawodd hi eilwaith. 26 Ac angel yr Arglwydd a aeth ymhellach; ac a safodd mewn lle cyfyng, lle nid oedd ffordd i gilio tua’r tu deau na’r tu aswy. 27 A gwelodd yr asen angel yr Arglwydd, ac a orweddodd dan Balaam: yna yr enynnodd dig Balaam, ac efe a drawodd yr asen â ffon. 28 A’r Arglwydd a agorodd safn yr asen; a hi a ddywedodd wrth Balaam, Beth a wneuthum i ti, pan drewaist fi y tair gwaith hyn? 29 A dywedodd Balaam wrth yr asen, Am i ti fy siomi. O na byddai gleddyf yn fy llaw; canys yn awr y’th laddwn. 30 A dywedodd yr asen wrth Balaam, Onid myfi yw dy asen, yr hon y marchogaist arnaf er pan ydwyf eiddot ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur i ti fel hyn? Ac efe a ddywedodd, Naddo. 31 A’r Arglwydd a agorodd lygaid Balaam; ac efe a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a’i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymodd ar ei wyneb. 32 A dywedodd angel yr Arglwydd wrtho, Paham y trewaist dy asen y tair gwaith hyn? Wele, mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd i ti; canys cyfeiliornus yw’r ffordd hon yn fy ngolwg. 33 A’r asen a’m gwelodd; ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn: oni buasai iddi gilio rhagof, diau yn awr y lladdaswn di, ac a’i gadawswn hi yn fyw. 34 A Balaam a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, Pechais; oblegid ni wyddwn dy fod di yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn: ac yr awr hon, os drwg yw yn dy olwg, dychwelaf adref. 35 A dywedodd angel yr Arglwydd wrth Balaam, Dos gyda’r dynion; a’r gair a lefarwyf wrthyt, hynny yn unig a leferi. Felly Balaam a aeth gyda thywysogion Balac.

36 A chlybu Balac ddyfod Balaam: ac efe a aeth i’w gyfarfod ef i ddinas Moab; yr hon sydd ar ardal Arnon, yr hon sydd ar gwr eithaf y terfyn. 37 A dywedodd Balac wrth Balaam, Onid gan anfon yr anfonais atat i’th gyrchu? paham na ddeuit ti ataf? Oni allwn i dy wneuthur di yn anrhydeddus? 38 A dywedodd Balaam wrth Balac, Wele, mi a ddeuthum atat: gan allu a allaf fi lefaru dim yr awr hon? y gair a osodo Duw yn fy ngenau, hwnnw a lefaraf fi. 39 A Balaam a aeth gyda Balac; a hwy a ddaethant i Gaer‐Husoth. 40 A lladdodd Balac wartheg a defaid; ac a anfonodd ran i Balaam, ac i’r tywysogion oedd gydag ef. 41 A’r bore Balac a gymerodd Balaam, ac a aeth ag ef i fyny i uchelfeydd Baal; fel y gwelai oddi yno gwr eithaf y bobl.

Balak Summons Balaam

22 Then the Israelites traveled to the plains of Moab(A) and camped along the Jordan(B) across from Jericho.(C)

Now Balak son of Zippor(D) saw all that Israel had done to the Amorites, and Moab was terrified because there were so many people. Indeed, Moab was filled with dread(E) because of the Israelites.

The Moabites(F) said to the elders of Midian,(G) “This horde is going to lick up everything(H) around us, as an ox licks up the grass of the field.(I)

So Balak son of Zippor, who was king of Moab at that time, sent messengers to summon Balaam son of Beor,(J) who was at Pethor, near the Euphrates River,(K) in his native land. Balak said:

“A people has come out of Egypt;(L) they cover the face of the land and have settled next to me. Now come and put a curse(M) on these people, because they are too powerful for me. Perhaps then I will be able to defeat them and drive them out of the land.(N) For I know that whoever you bless is blessed, and whoever you curse is cursed.”

The elders of Moab and Midian left, taking with them the fee for divination.(O) When they came to Balaam, they told him what Balak had said.

“Spend the night here,” Balaam said to them, “and I will report back to you with the answer the Lord gives me.(P)” So the Moabite officials stayed with him.

God came to Balaam(Q) and asked,(R) “Who are these men with you?”

10 Balaam said to God, “Balak son of Zippor, king of Moab, sent me this message: 11 ‘A people that has come out of Egypt covers the face of the land. Now come and put a curse on them for me. Perhaps then I will be able to fight them and drive them away.’”

12 But God said to Balaam, “Do not go with them. You must not put a curse on those people, because they are blessed.(S)

13 The next morning Balaam got up and said to Balak’s officials, “Go back to your own country, for the Lord has refused to let me go with you.”

14 So the Moabite officials returned to Balak and said, “Balaam refused to come with us.”

15 Then Balak sent other officials, more numerous and more distinguished than the first. 16 They came to Balaam and said:

“This is what Balak son of Zippor says: Do not let anything keep you from coming to me, 17 because I will reward you handsomely(T) and do whatever you say. Come and put a curse(U) on these people for me.”

18 But Balaam answered them, “Even if Balak gave me all the silver and gold in his palace, I could not do anything great or small to go beyond the command of the Lord my God.(V) 19 Now spend the night here so that I can find out what else the Lord will tell me.(W)

20 That night God came to Balaam(X) and said, “Since these men have come to summon you, go with them, but do only what I tell you.”(Y)

Balaam’s Donkey

21 Balaam got up in the morning, saddled his donkey and went with the Moabite officials. 22 But God was very angry(Z) when he went, and the angel of the Lord(AA) stood in the road to oppose him. Balaam was riding on his donkey, and his two servants were with him. 23 When the donkey saw the angel of the Lord standing in the road with a drawn sword(AB) in his hand, it turned off the road into a field. Balaam beat it(AC) to get it back on the road.

24 Then the angel of the Lord stood in a narrow path through the vineyards, with walls on both sides. 25 When the donkey saw the angel of the Lord, it pressed close to the wall, crushing Balaam’s foot against it. So he beat the donkey again.

26 Then the angel of the Lord moved on ahead and stood in a narrow place where there was no room to turn, either to the right or to the left. 27 When the donkey saw the angel of the Lord, it lay down under Balaam, and he was angry(AD) and beat it with his staff. 28 Then the Lord opened the donkey’s mouth,(AE) and it said to Balaam, “What have I done to you to make you beat me these three times?(AF)

29 Balaam answered the donkey, “You have made a fool of me! If only I had a sword in my hand, I would kill you right now.(AG)

30 The donkey said to Balaam, “Am I not your own donkey, which you have always ridden, to this day? Have I been in the habit of doing this to you?”

“No,” he said.

31 Then the Lord opened Balaam’s eyes,(AH) and he saw the angel of the Lord standing in the road with his sword drawn. So he bowed low and fell facedown.

32 The angel of the Lord asked him, “Why have you beaten your donkey these three times? I have come here to oppose you because your path is a reckless one before me.[a] 33 The donkey saw me and turned away from me these three times. If it had not turned away, I would certainly have killed you by now,(AI) but I would have spared it.”

34 Balaam said to the angel of the Lord, “I have sinned.(AJ) I did not realize you were standing in the road to oppose me. Now if you are displeased, I will go back.”

35 The angel of the Lord said to Balaam, “Go with the men, but speak only what I tell you.” So Balaam went with Balak’s officials.

36 When Balak(AK) heard that Balaam was coming, he went out to meet him at the Moabite town on the Arnon(AL) border, at the edge of his territory. 37 Balak said to Balaam, “Did I not send you an urgent summons? Why didn’t you come to me? Am I really not able to reward you?”

38 “Well, I have come to you now,” Balaam replied. “But I can’t say whatever I please. I must speak only what God puts in my mouth.”(AM)

39 Then Balaam went with Balak to Kiriath Huzoth. 40 Balak sacrificed cattle and sheep,(AN) and gave some to Balaam and the officials who were with him. 41 The next morning Balak took Balaam up to Bamoth Baal,(AO) and from there he could see the outskirts of the Israelite camp.(AP)

Footnotes

  1. Numbers 22:32 The meaning of the Hebrew for this clause is uncertain.