Add parallel Print Page Options

20 A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa a ddaethant i anialwch Sin, yn y mis cyntaf; ac arhodd y bobl yn Cades; yno hefyd y bu farw Miriam: ac yno y claddwyd hi. Ac nid oedd dwfr i’r gynulleidfa: a hwy a ymgasglasant yn erbyn Moses ac Aaron. Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr gerbron yr Arglwydd! Paham y dygasoch gynulleidfa yr Arglwydd i’r anialwch hwn, i farw ohonom ni a’n hanifeiliaid ynddo? A phaham y dygasoch ni i fyny o’r Aifft, i’n dwyn ni i’r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranatbren, ac heb ddwfr i’w yfed? A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.

A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Cymer y wialen, a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o’r graig, a dioda’r gynulleidfa a’u hanifeiliaid. A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr Arglwydd, megis y gorchmynasai efe iddo. 10 A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o’r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr? 11 A Moses a gododd ei law, ac a drawodd y graig ddwy waith â’i wialen: a daeth dwfr lawer allan; a’r gynulleidfa a yfodd, a’u hanifeiliaid hefyd.

12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i’m sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i’r tir a roddais iddynt. 13 Dyma ddyfroedd Meriba; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â’r Arglwydd, ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.

14 A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni: 15 Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i’r Aifft, ac yr arosasom yn yr Aifft lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Eifftiaid ni, a’n tadau. 16 A ni a waeddasom ar yr Arglwydd; ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a’n dug ni allan o’r Aifft: ac wele ni yn Cades, dinas ar gwr dy ardal di. 17 Atolwg, gad i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: priffordd y brenin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o’th derfynau di. 18 A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â’r cleddyf i’th gyfarfod. 19 A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y briffordd yr awn i fyny; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o’th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn unig ar fy nhraed yr af trwodd yn ddiniwed. 20 Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod ag ef, â phobl lawer, ac â llaw gref. 21 Felly Edom a nacaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef.

22 A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor. 23 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd, 24 Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i’r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhau i’m gair, wrth ddwfr Meriba. 25 Cymer Aaron ac Eleasar ei fab, a dwg hwynt i fyny i fynydd Hor; 26 A diosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleasar ei fab ef: canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno. 27 A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd: a hwy a aethant i fyny i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynulleidfa. 28 A diosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a’u gwisgodd hwynt am Eleasar ei fab ef: a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd. A disgynnodd Moses ac Eleasar o’r mynydd. 29 A’r holl gynulleidfa a welsant farw Aaron; a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron ddeng niwrnod ar hugain.