Add parallel Print Page Options

13 Y dwthwn hwnnw y darllenwyd yn llyfr Moses lle y clybu’r bobl; a chafwyd yn ysgrifenedig ynddo, na ddylai yr Ammoniad na’r Moabiad ddyfod i gynulleidfa Duw yn dragywydd; Am na chyfarfuasent â meibion Israel â bara ac â dwfr, eithr cyflogasent Balaam yn eu herbyn i’w melltithio hwynt: eto ein Duw ni a drodd y felltith yn fendith. A phan glywsant hwy y gyfraith, hwy a neilltuasant yr holl rai cymysg oddi wrth Israel.

Ac o flaen hyn, Eliasib yr offeiriad, yr hwn a osodasid ar ystafell tŷ ein Duw ni, oedd gyfathrachwr i Tobeia: Ac efe a wnaeth iddo ef ystafell fawr; ac yno y byddent o’r blaen yn rhoddi y bwyd‐offrymau, y thus, a’r llestri, a degwm yr ŷd, y gwin, a’r olew, a orchmynasid eu rhoddi i’r Lefiaid, a’r cantorion, a’r porthorion, ac offrymau yr offeiriaid. Ac yn hyn i gyd o amser ni bûm i yn Jerwsalem: canys yn y ddeuddegfed flwyddyn ar hugain i Artacsercses brenin Babilon y deuthum i at y brenin, ac ymhen talm o ddyddiau y cefais gennad gan y brenin; Ac a ddeuthum i Jerwsalem, ac a ddeellais y drygioni a wnaethai Eliasib er Tobeia, gan wneuthur iddo ystafell yng nghynteddoedd tŷ Dduw. A bu ddrwg iawn gennyf; am hynny mi a fwriais holl ddodrefn tŷ Tobeia allan o’r ystafell. Erchais hefyd iddynt lanhau yr ystafelloedd: a mi a ddygais yno drachefn lestri tŷ Dduw, yr offrwm a’r thus.

10 Gwybûm hefyd fod rhannau y Lefiaid heb eu rhoddi iddynt: canys ffoesai y Lefiaid a’r cantorion, y rhai oedd yn gwneuthur y gwaith, bob un i’w faes. 11 Yna y dwrdiais y swyddogion, ac y dywedais, Paham y gwrthodwyd tŷ Dduw? A mi a’u cesglais hwynt ynghyd, ac a’u gosodais yn eu lle. 12 Yna holl Jwda a ddygasant ddegwm yr ŷd, a’r gwin, a’r olew, i’r trysordai. 13 A mi a wneuthum yn drysorwyr ar y trysorau, Selemeia yr offeiriad, a Sadoc yr ysgrifennydd, a Phedaia, o’r Lefiaid: a cherllaw iddynt hwy yr oedd Hanan mab Saccur, mab Mataneia: canys ffyddlon y cyfrifid hwynt, ac arnynt hwy yr oedd rhannu i’w brodyr. 14 Cofia fi, fy Nuw oherwydd hyn; ac na ddilea fy ngharedigrwydd a wneuthum i dŷ fy Nuw, ac i’w wyliadwriaethau ef.

15 Yn y dyddiau hynny y gwelais yn Jwda rai yn sengi gwinwryfau ar y Saboth, ac yn dwyn i mewn ysgubau ŷd, ac yn llwytho asynnod, gwin hefyd, a grawnwin, a ffigys, a phob beichiau, ac yn eu dwyn i Jerwsalem ar y dydd Saboth: a mi a dystiolaethais yn eu herbyn ar y dydd y gwerthasant luniaeth. 16 Y Tyriaid hefyd oedd yn trigo ynddi, ac yn dwyn pysgod, a phob peth gwerthadwy, y rhai yr oeddynt hwy yn eu gwerthu ar y Saboth i feibion Jwda, ac yn Jerwsalem. 17 Yna y dwrdiais bendefigion Jwda, ac y dywedais wrthynt, Pa beth drygionus yw hwn yr ydych chwi yn ei wneuthur, gan halogi’r dydd Saboth? 18 Onid fel hyn y gwnaeth eich tadau chwi? ac oni ddug ein Duw ni yr holl ddrwg hyn arnom ni, ac ar y ddinas hon? a chwithau ydych yn ychwanegu digofaint ar Israel, trwy halogi’r Saboth. 19 A phan dywyllasai pyrth Jerwsalem cyn y Saboth, yr erchais gau’r dorau, ac a orchmynnais nad agorid hwynt hyd wedi’r Saboth: a mi a osodais rai o’m gweision wrth y pyrth, fel na ddelai baich i mewn ar ddydd y Saboth. 20 Felly y marchnadwyr, a gwerthwyr pob peth gwerthadwy, a letyasant o’r tu allan i Jerwsalem unwaith neu ddwy. 21 A mi a dystiolaethais yn eu herbyn hwynt, ac a ddywedais wrthynt, Paham yr ydych chwi yn aros dros nos wrth y mur? os gwnewch eilwaith, mi a estynnaf fy llaw i’ch erbyn. O’r pryd hwnnw ni ddaethant ar y Saboth mwyach. 22 A mi a ddywedais wrth y Lefiaid, am iddynt ymlanhau, a dyfod i gadw y pyrth, gan sancteiddio’r dydd Saboth. Am hyn hefyd cofia fi, fy Nuw, ac arbed fi yn ôl lliaws dy drugaredd.

23 Yn y dyddiau hynny hefyd y gwelais Iddewon a briodasent Asdodesau, Ammonesau, a Moabesau, yn wragedd iddynt: 24 A’u plant hwy oedd yn llefaru y naill hanner o’r Asdodeg, ac heb fedru ymddiddan yn iaith yr Iddewon, ond yn ôl tafodiaith y ddeubar bobl. 25 Yna yr ymrysonais â hwynt, ac y melltithiais hwynt; trewais hefyd rai ohonynt, ac a bliciais eu gwallt hwynt: a mi a’u tyngais hwynt trwy Dduw, gan ddywedyd, Na roddwch eich merched i’w meibion hwynt, ac na chymerwch o’u merched hwynt i’ch meibion, nac i chwi eich hunain. 26 Onid o achos y rhai hyn y pechodd Solomon brenin Israel? er na bu brenin cyffelyb iddo ef ymysg cenhedloedd lawer, yr hwn oedd hoff gan ei Dduw, a Duw a’i gwnaeth ef yn frenin ar holl Israel; eto gwragedd dieithr a wnaethant iddo ef bechu. 27 Ai arnoch chwi y gwrandawn, i wneuthur yr holl ddrygioni mawr hwn, gan droseddu yn erbyn ein Duw, trwy briodi gwragedd dieithr? 28 Ac un o feibion Joiada, mab Eliasib yr archoffeiriad, oedd ddaw i Sanbalat yr Horoniad: yr hwn a ymlidiais i oddi wrthyf. 29 O fy Nuw, cofia hwynt, am iddynt halogi’r offeiriadaeth, a chyfamod yr offeiriadaeth, a’r Lefiaid. 30 Yna y glanheais hwynt oddi wrth bob estron; gosodais hefyd oruchwyliaethau i’r offeiriaid ac i’r Lefiaid, pob un yn ei waith; 31 Ac at goed yr offrwm mewn amserau nodedig, ac at y blaenffrwythau. Cofia fi, O fy Nuw, er daioni.

Nehemiah’s Final Reforms

13 On that day the Book of Moses was read aloud in the hearing of the people and there it was found written that no Ammonite or Moabite should ever be admitted into the assembly of God,(A) because they had not met the Israelites with food and water but had hired Balaam(B) to call a curse down on them.(C) (Our God, however, turned the curse into a blessing.)(D) When the people heard this law, they excluded from Israel all who were of foreign descent.(E)

Before this, Eliashib the priest had been put in charge of the storerooms(F) of the house of our God. He was closely associated with Tobiah,(G) and he had provided him with a large room formerly used to store the grain offerings and incense and temple articles, and also the tithes(H) of grain, new wine and olive oil prescribed for the Levites, musicians and gatekeepers, as well as the contributions for the priests.

But while all this was going on, I was not in Jerusalem, for in the thirty-second year of Artaxerxes(I) king of Babylon I had returned to the king. Some time later I asked his permission and came back to Jerusalem. Here I learned about the evil thing Eliashib(J) had done in providing Tobiah(K) a room in the courts of the house of God. I was greatly displeased and threw all Tobiah’s household goods out of the room.(L) I gave orders to purify the rooms,(M) and then I put back into them the equipment of the house of God, with the grain offerings and the incense.(N)

10 I also learned that the portions assigned to the Levites had not been given to them,(O) and that all the Levites and musicians responsible for the service had gone back to their own fields.(P) 11 So I rebuked the officials and asked them, “Why is the house of God neglected?”(Q) Then I called them together and stationed them at their posts.

12 All Judah brought the tithes(R) of grain, new wine and olive oil into the storerooms.(S) 13 I put Shelemiah the priest, Zadok the scribe, and a Levite named Pedaiah in charge of the storerooms and made Hanan son of Zakkur, the son of Mattaniah, their assistant, because they were considered trustworthy. They were made responsible for distributing the supplies to their fellow Levites.(T)

14 Remember(U) me for this, my God, and do not blot out what I have so faithfully done for the house of my God and its services.

15 In those days I saw people in Judah treading winepresses on the Sabbath and bringing in grain and loading it on donkeys, together with wine, grapes, figs and all other kinds of loads. And they were bringing all this into Jerusalem on the Sabbath.(V) Therefore I warned them against selling food on that day. 16 People from Tyre who lived in Jerusalem were bringing in fish and all kinds of merchandise and selling them in Jerusalem on the Sabbath(W) to the people of Judah. 17 I rebuked the nobles of Judah and said to them, “What is this wicked thing you are doing—desecrating the Sabbath day? 18 Didn’t your ancestors do the same things, so that our God brought all this calamity on us and on this city?(X) Now you are stirring up more wrath against Israel by desecrating the Sabbath.”(Y)

19 When evening shadows fell on the gates of Jerusalem before the Sabbath,(Z) I ordered the doors to be shut and not opened until the Sabbath was over. I stationed some of my own men at the gates so that no load could be brought in on the Sabbath day. 20 Once or twice the merchants and sellers of all kinds of goods spent the night outside Jerusalem. 21 But I warned them and said, “Why do you spend the night by the wall? If you do this again, I will arrest you.” From that time on they no longer came on the Sabbath. 22 Then I commanded the Levites to purify themselves and go and guard the gates in order to keep the Sabbath day holy.

Remember(AA) me for this also, my God, and show mercy to me according to your great love.

23 Moreover, in those days I saw men of Judah who had married(AB) women from Ashdod, Ammon and Moab.(AC) 24 Half of their children spoke the language of Ashdod or the language of one of the other peoples, and did not know how to speak the language(AD) of Judah. 25 I rebuked them and called curses down on them. I beat some of the men and pulled out their hair. I made them take an oath(AE) in God’s name and said: “You are not to give your daughters in marriage to their sons, nor are you to take their daughters in marriage for your sons or for yourselves.(AF) 26 Was it not because of marriages like these that Solomon king of Israel sinned? Among the many nations there was no king like him.(AG) He was loved by his God,(AH) and God made him king over all Israel, but even he was led into sin by foreign women.(AI) 27 Must we hear now that you too are doing all this terrible wickedness and are being unfaithful to our God by marrying(AJ) foreign women?”

28 One of the sons of Joiada son of Eliashib(AK) the high priest was son-in-law to Sanballat(AL) the Horonite. And I drove him away from me.

29 Remember(AM) them, my God, because they defiled the priestly office and the covenant of the priesthood and of the Levites.(AN)

30 So I purified the priests and the Levites of everything foreign,(AO) and assigned them duties, each to his own task. 31 I also made provision for contributions of wood(AP) at designated times, and for the firstfruits.(AQ)

Remember(AR) me with favor, my God.