Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Mathew 8  Beibl William Morgan

8 Ac wedi ei ddyfod ef i waered o’r mynydd, torfeydd lawer a’i canlynasant ef. 2 Ac wele, un gwahanglwyfus a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i. 3 A’r Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahanglwyf ef a lanhawyd. 4 A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb; eithr dos, dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma’r rhodd a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.

5 Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Gapernaum, daeth ato ganwriad, gan ddeisyfu arno, 6 A dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o’r parlys, ac mewn poen ddirfawr. 7 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf, ac a’i hiachâf ef. 8 A’r canwriad a atebodd ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: eithr yn unig dywed y gair, a’m gwas a iacheir. 9 Canys dyn ydwyf finnau dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: a dywedaf wrth hwn, Cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna. 10 A’r Iesu pan glybu, a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel. 11 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o’r dwyrain a’r gorllewin, ac a eisteddant gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd: 12 Ond plant y deyrnas a deflir i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 13 A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, Dos ymaith; ac megis y credaist, bydded i ti. A’i was a iachawyd yn yr awr honno.

14 A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o’r cryd. 15 Ac efe a gyffyrddodd â’i llaw hi; a’r cryd a’i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wasanaethodd arnynt.

16 Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â’i air, ac a iachaodd yr holl gleifion; 17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Efe a gymerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.

18 A’r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o’i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i’r lan arall. 19 A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 20 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr. 21 Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 22 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gad i’r meirw gladdu eu meirw.

23 Ac wedi iddo fyned i’r llong, ei ddisgyblion a’i canlynasant ef. 24 Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu. 25 A’i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a’i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom. 26 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr; a bu dawelwch mawr. 27 A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a’r môr yn ufuddhau iddo!

28 Ac wedi ei ddyfod ef i’r lan arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o’r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno. 29 Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu, Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i’n poeni ni cyn yr amser? 30 Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer, yn pori. 31 A’r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i’r genfaint foch. 32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i’r genfaint foch: ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i’r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd. 33 A’r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i’r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i’r rhai dieflig. 34 Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu: a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o’u cyffiniau hwynt.

Next
Mathew 7
Mathew 9
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences