Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Mathew 5  Beibl William Morgan

5 A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato. 2 Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dysgodd hwynt, gan ddywedyd, 3 Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. 4 Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. 5 Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear. 6 Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir. 7 Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd. 8 Gwyn eu byd y rhai pur o galon: canys hwy a welant Dduw. 9 Gwyn eu byd y tangnefeddwyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw. 10 Gwyn eu byd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. 11 Gwyn eich byd pan y’ch gwaradwyddant, ac y’ch erlidiant, ac y dywedant bob drygair yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog. 12 Byddwch lawen a hyfryd: canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy’r proffwydi a fu o’ch blaen chwi.

13 Chwi yw halen y ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i’w fwrw allan, a’i sathru gan ddynion. 14 Chwi yw goleuni’r byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio. 15 Ac ni oleuant gannwyll, a’i dodi dan lestr, ond mewn canhwyllbren; a hi a oleua i bawb sydd yn y tŷ. 16 Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

17 Na thybiwch fy nyfod i dorri’r gyfraith, neu’r proffwydi: ni ddeuthum i dorri, ond i gyflawni. 18 Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a’r ddaear heibio, nid â un iod nac un tipyn o’r gyfraith heibio, hyd oni chwblhaer oll. 19 Pwy bynnag gan hynny a dorro un o’r gorchmynion lleiaf hyn, ac a ddysgo i ddynion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag a’u gwnelo, ac a’u dysgo i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd. 20 Canys meddaf i chwi, Oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach na chyfiawnder yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.

21 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd; a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn: 22 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, Pob un a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, O ynfyd, a fydd euog o dân uffern. 23 Gan hynny, os dygi dy rodd i’r allor, ac yno dyfod i’th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn; 24 Gad yno dy rodd gerbron yr allor, a dos ymaith: yn gyntaf cymoder di â’th frawd, ac yna tyred ac offrwm dy rodd. 25 Cytuna â’th wrthwynebwr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gydag ef; rhag un amser i’th wrthwynebwr dy roddi di yn llaw’r barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, a’th daflu yng ngharchar. 26 Yn wir meddaf i ti, Ni ddeui di allan oddi yno, hyd oni thalech y ffyrling eithaf.

27 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb; 28 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi fod pob un sydd yn edrych ar wraig i’w chwenychu hi, wedi gwneuthur eisoes odineb â hi yn ei galon. 29 Ac os dy lygad deau a’th rwystra, tyn ef allan, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 30 Ac os dy law ddeau a’th rwystra, tor hi ymaith, a thafl oddi wrthyt: canys da i ti golli un o’th aelodau, ac na thafler dy holl gorff i uffern. 31 A dywedwyd, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar: 32 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.

33 Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon; eithr tâl dy lwon i’r Arglwydd: 34 Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nac i’r nef; canys gorseddfa Duw ydyw: 35 Nac i’r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys dinas y brenin mawr ydyw. 36 Ac na thwng i’th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu. 37 Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o’r drwg y mae.

38 Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant: 39 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a’th drawo ar dy rudd ddeau, tro’r llall iddo hefyd. 40 Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd. 41 A phwy bynnag a’th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy. 42 Dyro i’r hwn a ofynno gennyt; ac na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.

43 Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn. 44 Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant; 45 Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn. 46 Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth? 47 Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly? 48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.

Next
Mathew 4
Mathew 6
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences