Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Mathew 19  Beibl William Morgan

19 A bu, pan orffennodd yr Iesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Jwdea, tu hwnt i’r Iorddonen: 2 A thorfeydd lawer a’i canlynasant ef; ac efe a’u hiachaodd hwynt yno.

3 A daeth y Phariseaid ato, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlon i ŵr ysgar â’i wraig am bob achos? 4 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i’r hwn a’u gwnaeth o’r dechrau, eu gwneuthur hwy yn wryw a benyw? 5 Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gad dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a’r ddau fyddant yn un cnawd. 6 Oherwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, nac ysgared dyn. 7 Hwythau a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny y gorchmynnodd Moses roddi llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith? 8 Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, oherwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â’ch gwragedd: eithr o’r dechrau nid felly yr oedd. 9 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â’i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae’r hwn a briodo’r hon a ysgarwyd, yn torri priodas.

10 Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae’r achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica. 11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt. 12 Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac y mae eunuchiaid a’u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.

13 Yna y dygwyd ato blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylo arnynt, ac y gweddïai: a’r disgyblion a’u ceryddodd hwynt. 14 A’r Iesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod ataf fi: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd. 15 Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.

16 Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragwyddol? 17 Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchmynion. 18 Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladrata, Na ddwg gamdystiolaeth, 19 Anrhydedda dy dad a’th fam, a Châr dy gymydog fel ti dy hun. 20 Y gŵr ieuanc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o’m hieuenctid: beth sydd yn eisiau i mi eto? 21 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi. 22 A phan glybu’r gŵr ieuanc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.

23 Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anodd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd. 24 A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau’r nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 25 A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig? 26 A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion amhosibl yw hyn; ond gyda Duw pob peth sydd bosibl.

27 Yna Pedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni? 28 A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a’m canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel. 29 A phob un a’r a adawodd dai neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymaint, a bywyd tragwyddol a etifedda efe. 30 Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.

Next
Mathew 18
Mathew 20
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences