Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Mathew 15  Beibl William Morgan

15 Yna yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid, y rhai oedd o Jerwsalem, a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd, 2 Paham y mae dy ddisgyblion di yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwytaont fara. 3 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A phaham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw trwy eich traddodiad chwi? 4 Canys Duw a orchmynnodd, gan ddywedyd, Anrhydedda dy dad a’th fam: a’r hwn a felltithio dad neu fam, lladder ef yn farw. 5 Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei dad neu ei fam, Rhodd yw pa beth bynnag y ceit les oddi wrthyf fi, ac nid anrhydeddo ei dad neu ei fam, difai fydd. 6 Ac fel hyn y gwnaethoch orchymyn Duw yn ddirym trwy eich traddodiad eich hun. 7 O ragrithwyr, da y proffwydodd Eseias amdanoch chwi, gan ddywedyd, 8 Nesáu y mae’r bobl hyn ataf â’u genau, a’m hanrhydeddu â’u gwefusau; a’u calon sydd bell oddi wrthyf. 9 Eithr yn ofer y’m hanrhydeddant i, gan ddysgu gorchmynion dynion yn ddysgeidiaeth.

10 Ac wedi iddo alw y dyrfa ato, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch, a deellwch. 11 Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i’r genau, sydd yn halogi dyn; ond yr hyn sydd yn dyfod allan o’r genau, hynny sydd yn halogi dyn. 12 Yna y daeth ei ddisgyblion ato, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti ymrwystro o’r Phariseaid wrth glywed yr ymadrodd hwn? 13 Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pob planhigyn yr hwn nis plannodd fy Nhad nefol, a ddiwreiddir. 14 Gadewch iddynt: tywysogion deillion i’r deillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos. 15 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni’r ddameg hon. 16 A dywedodd yr Iesu, A ydych chwithau eto heb ddeall? 17 Onid ydych chwi yn deall eto, fod yr hyn oll sydd yn myned i mewn i’r genau, yn cilio i’r bola, ac y bwrir ef allan i’r geudy? 18 Eithr y pethau a ddeuant allan o’r genau, sydd yn dyfod allan o’r galon; a’r pethau hynny a halogant ddyn. 19 Canys o’r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, torpriodasau, godinebau, lladradau, camdystiolaethau, cablau: 20 Dyma’r pethau sydd yn halogi dyn: eithr bwyta â dwylo heb olchi, ni haloga ddyn.

21 A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon. 22 Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o’r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarha wrthyf, O Arglwydd, Fab Dafydd: y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythraul. 23 Eithr nid atebodd efe iddi un gair. A daeth ei ddisgyblion ato, ac a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymaith; canys y mae hi yn llefain ar ein hôl. 24 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ni’m danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel. 25 Ond hi a ddaeth, ac a’i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymorth fi. 26 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Nid da cymryd bara’r plant, a’i fwrw i’r cŵn. 27 Hithau a ddywedodd, Gwir yw, Arglwydd: canys y mae’r cŵn yn bwyta o’r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi. 28 Yna yr atebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A’i merch a iachawyd o’r awr honno allan.

29 A’r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth gerllaw môr Galilea; ac a esgynnodd i’r mynydd, ac a eisteddodd yno. 30 A daeth ato dorfeydd lawer, a chanddynt gyda hwynt gloffion, deillion, mudion, anafusion, ac eraill lawer: a hwy a’u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a’u hiachaodd hwynt: 31 Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn llefaru, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a’r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.

32 A galwodd yr Iesu ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd, Yr ydwyf yn tosturio wrth y dyrfa; canys y maent yn aros gyda mi dridiau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i’w fwyta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffordd. 33 A’i ddisgyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymaint o fara yn y diffeithwch, fel y digonid tyrfa gymaint? 34 A’r Iesu a ddywedai wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant, Saith, ac ychydig bysgod bychain. 35 Ac efe a orchmynnodd i’r torfeydd eistedd ar y ddaear. 36 A chan gymryd y saith dorth, a’r pysgod, a diolch, efe a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’w ddisgyblion, a’r disgyblion i’r dyrfa. 37 A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant eu digon; ac a godasant o’r briwfwyd oedd yng ngweddill, saith fasgedaid yn llawn. 38 A’r rhai a fwytasant oedd bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant. 39 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala.

Next
Mathew 14
Mathew 16
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences