Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Mathew 13  Beibl William Morgan

13 Y dydd hwnnw yr aeth yr Iesu allan o’r tŷ, ac yr eisteddodd wrth lan y môr. 2 A thorfeydd lawer a ymgynullasant ato ef, fel yr aeth efe i’r llong, ac yr eisteddodd: a’r holl dyrfa a safodd ar y lan. 3 Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau trwy ddamhegion, gan ddywedyd, Wele, yr heuwr a aeth allan i hau. 4 Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd; a’r adar a ddaethant, ac a’i difasant. 5 Peth arall a syrthiodd ar greigleoedd, lle ni chawsant fawr ddaear: ac yn y man yr eginasant, gan nad oedd iddynt ddyfnder daear: 6 Ac wedi codi yr haul, y poethasant; ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant. 7 A pheth arall a syrthiodd ymhlith y drain; a’r drain a godasant, ac a’u tagasant hwy. 8 Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tir da, ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfed, arall ar ei dri ugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain. 9 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. 10 A daeth y disgyblion, ac a ddywedasant wrtho, Paham yr wyt ti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion? 11 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy. 12 Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie, yr hyn sydd ganddo. 13 Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion: canys a hwy yn gweled, nid ydynt yn gweled; ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall. 14 Ac ynddynt hwy y cyflawnir proffwydoliaeth Eseias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch; ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch; 15 Canys brasawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â’u clustiau yn drwm, ac a gaeasant eu llygaid; rhag canfod â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’r galon, a throi, ac i mi eu hiacháu hwynt. 16 Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bod yn gweled; a’ch clustiau, am eu bod yn clywed: 17 Oblegid yn wir y dywedaf i chwi, chwenychu o lawer o broffwydi a rhai cyfiawn weled y pethau a welwch chwi, ac nis gwelsant; a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac nis clywsant.

18 Gwrandewch chwithau gan hynny ddameg yr heuwr. 19 Pan glywo neb air y deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae’r drwg yn dyfod, ac yn cipio’r hyn a heuwyd yn ei galon ef. Dyma’r hwn a heuwyd ar fin y ffordd. 20 A’r hwn a heuwyd ar y creigleoedd, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ebrwydd trwy lawenydd yn ei dderbyn; 21 Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir. 22 A’r hwn a heuwyd ymhlith y drain, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair; ac y mae gofal y byd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu’r gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth. 23 Ond yr hwn a heuwyd yn y tir da, yw’r hwn sydd yn gwrando’r gair, ac yn ei ddeall; sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.

24 Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a heuodd had da yn ei faes: 25 A thra oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a heuodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymaith. 26 Ac wedi i’r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd. 27 A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni heuaist ti had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae’r efrau ynddo? 28 Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. A’r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a’u casglu hwynt? 29 Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu’r efrau, ddiwreiddio’r gwenith gyda hwynt. 30 Gadewch i’r ddau gyd‐dyfu hyd y cynhaeaf: ac yn amser y cynhaeaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i’w llwyr losgi; ond cesglwch y gwenith i’m hysgubor.

31 Dameg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn ac a’i heuodd yn ei faes: 32 Yr hwn yn wir sydd leiaf o’r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o’r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.

33 Dameg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl. 34 Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd; ac heb ddameg ni lefarodd efe wrthynt; 35 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn damhegion; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd.

36 Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i’r tŷ: a’i ddisgyblion a ddaethant ato, gan ddywedyd, Eglura i ni ddameg efrau’r maes. 37 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau’r had da, yw Mab y dyn; 38 A’r maes yw’r byd; a’r had da, hwynt‐hwy yw plant y deyrnas; a’r efrau yw plant y drwg; 39 A’r gelyn yr hwn a’u heuodd hwynt, yw diafol; a’r cynhaeaf yw diwedd y byd; a’r medelwyr yw’r angylion. 40 Megis gan hynny y cynullir yr efrau, ac a’u llwyr losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn. 41 Mab y dyn a ddenfyn ei angylion, a hwy a gynullant allan o’i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a’r rhai a wnânt anwiredd; 42 Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 43 Yna y llewyrcha’r rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

44 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a’i cuddiodd, ac o lawenydd amdano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu’r hyn oll a fedd, ac yn prynu’r maes hwnnw.

45 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatawr, yn ceisio perlau teg: 46 Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymaint oll ag a feddai, ac a’i prynodd ef.

47 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth: 48 Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i’r lan, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg. 49 Felly y bydd yn niwedd y byd: yr angylion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn, 50 Ac a’u bwriant hwy i’r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd. 51 Iesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do, Arglwydd. 52 A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob ysgrifennydd wedi ei ddysgu i deyrnas nefoedd, sydd debyg i ddyn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o’i drysor bethau newydd a hen.

53 A bu, wedi i’r Iesu orffen y damhegion hyn, efe a ymadawodd oddi yno. 54 Ac efe a ddaeth i’w wlad ei hun, ac a’u dysgodd hwynt yn eu synagog; fel y synnodd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y daeth y doethineb hwn, a’r gweithredoedd nerthol i’r dyn hwn? 55 Onid hwn yw mab y saer? onid Mair y gelwir ei fam ef? a Iago, a Joses, a Simon, a Jwdas, ei frodyr ef? 56 Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyda ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll? 57 A hwy a rwystrwyd ynddo ef. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlad ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. 58 Ac ni wnaeth efe nemor o weithredoedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt.

Next
Mathew 12
Mathew 14
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences