Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Mathew 11  Beibl William Morgan

11 A bu, pan orffennodd yr Iesu orchymyn i’w ddeuddeg disgybl, efe a aeth oddi yno i ddysgu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy. 2 A Ioan, pan glybu yn y carchar weithredoedd Crist, wedi danfon dau o’i ddisgyblion, 3 A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw’r hwn sydd yn dyfod, ai un arall yr ydym yn ei ddisgwyl? 4 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch. 5 Y mae’r deillion yn gweled eilwaith, a’r cloffion yn rhodio, a’r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a’r byddariaid yn clywed; y mae’r meirw yn cyfodi, a’r tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt. 6 A dedwydd yw’r hwn ni rwystrir ynof fi.

7 Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych amdano? ai corsen yn ysgwyd gan wynt? 8 Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai dyn wedi ei wisgo â dillad esmwyth? wele, y rhai sydd yn gwisgo dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent. 9 Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? ai proffwyd? ie, meddaf i chwi, a mwy na phroffwyd: 10 Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr ysgrifennwyd, Wele, yr ydwyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen. 11 Yn wir meddaf i chwi, Ymhlith plant gwragedd, ni chododd neb mwy nag Ioan Fedyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef. 12 Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threiswyr sydd yn ei chipio hi. 13 Canys yr holl broffwydi a’r gyfraith a broffwydasant hyd Ioan. 14 Ac os ewyllysiwch ei dderbyn, efe yw Eleias, yr hwn oedd ar ddyfod. 15 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.

16 Eithr i ba beth y cyffelybaf fi’r genhedlaeth hon? Cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchnadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion, 17 Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad i chwi, ac ni chwynfanasoch. 18 Canys daeth Ioan heb na bwyta nac yfed; ac meddant, Y mae cythraul ganddo. 19 Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac meddant, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.

20 Yna y dechreuodd efe edliw i’r dinasoedd yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o’i weithredoedd nerthol ef, am nad edifarhasent: 21 Gwae di, Chorasin! gwae di, Bethsaida! canys pe gwnelsid yn Nhyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachliain a lludw. 22 Eithr meddaf i chwi, Esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn nydd y farn, nag i chwi. 23 A thydi, Capernaum, yr hon a ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern: canys pe gwnelsid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn aros hyd heddiw. 24 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd y farn, nag i ti.

25 Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r rhai deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain: 26 Ie, O Dad; canys felly y rhyngodd fodd i ti. 27 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac nid edwyn neb y Mab ond y Tad; ac nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a’r hwn yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.

28 Deuwch ataf fi bawb a’r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch. 29 Cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch gennyf; canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orffwystra i’ch eneidiau: 30 Canys fy iau sydd esmwyth, a’m baich sydd ysgafn.

Next
Mathew 10
Mathew 12
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences