Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Mathew 1  Beibl William Morgan

1 Llyfr cenhedliad Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham. 2 Abraham a genhedlodd Isaac; ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd Jwdas a’i frodyr; 3 A Jwdas a genhedlodd Phares a Sara o Thamar; a Phares a genhedlodd Esrom; ac Esrom a genhedlodd Aram; 4 Ac Aram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naason; a Naason a genhedlodd Salmon; 5 A Salmon a genhedlodd Boos o Rachab; a Boos a genhedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genhedlodd Jesse; 6 A Jesse a genhedlodd Dafydd frenin; a Dafydd frenin a genhedlodd Solomon o’r hon a fuasai wraig Ureias; 7 A Solomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abeia; ac Abeia a genhedlodd Asa; 8 Ac Asa a genhedlodd Josaffat; a Josaffat a genhedlodd Joram; a Joram a genhedlodd Oseias; 9 Ac Oseias a genhedlodd Joatham; a Joatham a genhedlodd Achas; ac Achas a genhedlodd Eseceias; 10 Ac Eseceias a genhedlodd Manasses; a Manasses a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Joseias; 11 A Joseias a genhedlodd Jechoneias a’i frodyr, ynghylch amser y symudiad i Fabilon; 12 Ac wedi’r symudiad i Fabilon, Jechoneias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Sorobabel; 13 A Sorobabel a genhedlodd Abïud; ac Abïud a genhedlodd Eliacim; ac Eliacim a genhedlodd Asor; 14 Ac Asor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Elïud; 15 Ac Elïud a genhedlodd Eleasar; ac Eleasar a genhedlodd Mathan; a Mathan a genhedlodd Jacob; 16 A Jacob a genhedlodd Joseff, gŵr Mair, o’r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist. 17 Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd, sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Dafydd hyd y symudiad i Fabilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o’r symudiad i Fabilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.

18 A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Wedi dyweddïo Mair ei fam ef â Joseff, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o’r Ysbryd Glân. 19 A Joseff ei gŵr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel. 20 Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseff, mab Dafydd, nac ofna gymryd Mair dy wraig: oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi sydd o’r Ysbryd Glân. 21 A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegid efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau. 22 (A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, 23 Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab; a hwy a alwant ei enw ef Emanuel; yr hyn o’i gyfieithu yw, Duw gyda ni.) 24 A Joseff, pan ddeffroes o gwsg, a wnaeth megis y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymerodd ei wraig: 25 Ac nid adnabu efe hi hyd onid esgorodd hi ar ei mab cyntaf‐anedig. A galwodd ei enw ef IESU.

Next
Malachi 4
Mathew 2
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences