Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Marc 4  Beibl William Morgan

4 Ac efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasglodd ato, hyd oni bu iddo fyned i’r llong, ac eistedd ar y môr; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr, ar y tir. 2 Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth ef, 3 Gwrandewch: Wele, heuwr a aeth allan i hau: 4 A darfu, wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a’i difasant. 5 A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear. 6 A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd. 7 A pheth a syrthiodd ymhlith drain; a’r drain a dyfasant, ac a’i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth. 8 A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant. 9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. 10 A phan oedd efe wrtho’i hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyda’r deuddeg a ofynasant iddo am y ddameg. 11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i’r rhai sydd allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth: 12 Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddau iddynt eu pechodau. 13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi’r ddameg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?

14 Yr heuwr sydd yn hau’r gair. 15 A’r rhai hyn yw’r rhai ar fin y ffordd, lle yr heuir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a heuwyd yn eu calonnau hwynt. 16 A’r rhai hyn yr un ffunud yw’r rhai a heuir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen; 17 Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt. 18 A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd ymysg y drain; y rhai a wrandawant y gair, 19 Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu’r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth. 20 A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.

21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i’w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i’w gosod ar ganhwyllbren? 22 Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb. 23 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed. 24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch. 25 Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a’r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.

26 Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i’r ddaear; 27 A chysgu, a chodi nos a dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe. 28 Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen. 29 A phan ymddangoso’r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y cynhaeaf.

30 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni? 31 Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan heuer yn y ddaear, sydd leiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear; 32 Eithr wedi yr heuer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na’r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef. 33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando: 34 Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt: ac o’r neilltu i’w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth.

35 Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i’r tu draw. 36 Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a’i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef. 37 Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a’r tonnau a daflasant i’r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian. 38 Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a’i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni? 39 Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A’r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr. 40 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd? 41 Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?

Next
Marc 3
Marc 5
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences