Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Marc 2  Beibl William Morgan

2 Ac efe a aeth drachefn i Gapernaum, wedi rhai dyddiau; a chlybuwyd ei fod ef yn tŷ. 2 Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghyd, hyd na annent hyd yn oed yn y lleoedd ynghylch y drws: ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy. 3 A daethant ato, gan ddwyn un claf o’r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar. 4 A chan na allent nesáu ato gan y dyrfa, didoi’r to a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely yn yr hwn y gorweddai’r claf o’r parlys. 5 A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o’r parlys, Ha fab, maddeuwyd i ti dy bechodau. 6 Ac yr oedd rhai o’r ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymu yn eu calonnau, 7 Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd? pwy a all faddau pechodau, ond Duw yn unig? 8 Ac yn ebrwydd, pan wybu’r Iesu yn ei ysbryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu am y pethau hyn yn eich calonnau? 9 Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o’r parlys, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a rhodia? 10 Eithr fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear, (eb efe wrth y claf o’r parlys,) 11 Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a dos i’th dŷ. 12 Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymerth i fyny ei wely, ac a aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll; hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn. 13 Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr: a’r holl dyrfa a ddaeth ato; ac efe a’u dysgodd hwynt.

14 Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a’i canlynodd ef. 15 A bu, a’r Iesu yn eistedd i fwyta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o bublicanod a phechaduriaid eistedd gyda’r Iesu a’i ddisgyblion; canys llawer oeddynt, a hwy a’i canlynasent ef. 16 A phan welodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef yn bwyta gyda’r publicanod a’r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddisgyblion ef, Paham y mae efe yn bwyta ac yn yfed gyda’r publicanod a’r pechaduriaid? 17 A’r Iesu, pan glybu, a ddywedodd wrthynt, Y rhai sydd iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddeuthum i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.

18 A disgyblion Ioan a’r Phariseaid oeddynt yn ymprydio. A hwy a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio, ond dy ddisgyblion di nid ydynt yn ymprydio? 19 A dywedodd yr Iesu wrthynt, A all plant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt? tra fyddo ganddynt y priodasfab gyda hwynt, ni allant ymprydio. 20 Eithr y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt; ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny. 21 Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os amgen, ei gyflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hen, a gwaeth fydd y rhwyg. 22 Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia’r costrelau, a’r gwin a red allan, a’r costrelau a gollir: eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.

23 A bu iddo fyned trwy’r ŷd ar y Saboth; a’i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu’r tywys. 24 A’r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnânt ar y Saboth yr hyn nid yw gyfreithlon? 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a’r rhai oedd gydag ef? 26 Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw, dan Abiathar yr archoffeiriad, ac y bwytaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlon eu bwyta, ond i’r offeiriaid yn unig, ac a’u rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef 27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth: 28 Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Saboth.

Next
Marc 1
Marc 3
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences