Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Marc 15  Beibl William Morgan

15 Ac yn y fan, y bore, yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda’r henuriaid a’r ysgrifenyddion, a’r holl gyngor: ac wedi iddynt rwymo’r Iesu, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant at Peilat. 2 A gofynnodd Peilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. 3 A’r archoffeiriaid a’i cyhuddasant ef o lawer o bethau: eithr nid atebodd efe ddim. 4 A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn. 5 Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim; fel y rhyfeddodd Peilat. 6 Ac ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynnent iddo. 7 Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyda’i gyd‐derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth. 8 A’r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt. 9 A Pheilat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon? 10 (Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai’r archoffeiriaid ef.) 11 A’r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt. 12 A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i’r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon? 13 A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef. 14 Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef.

15 A Pheilat yn chwennych bodloni’r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas; a’r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i’w groeshoelio. 16 A’r milwyr a’i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin; 17 Ac a’i gwisgasant ef â phorffor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a’i dodasant am ei ben; 18 Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iddewon. 19 A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a’i haddolasant ef. 20 Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porffor oddi amdano, ac a’i gwisgasant ef â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant allan i’w groeshoelio. 21 A hwy a gymellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o’r wlad, sef tad Alexander a Rwffus, i ddwyn ei groes ef. 22 A hwy a’i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha; yr hyn o’i gyfieithu yw, Lle’r benglog: 23 Ac a roesant iddo i’w yfed win myrllyd: eithr efe nis cymerth. 24 Ac wedi iddynt ei groeshoelio, hwy a ranasant ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gâi pob un. 25 A’r drydedd awr oedd hi; a hwy a’i croeshoeliasant ef. 26 Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu, BRENIN YR IDDEWON. 27 A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy iddo. 28 A’r ysgrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyda’r rhai anwir. 29 A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio’r deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau, 30 Gwared dy hun, a disgyn oddi ar y groes. 31 Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth ei gilydd, gyda’r ysgrifenyddion, Eraill a waredodd, ei hun nis gall ei wared. 32 Disgynned Crist, Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A’r rhai a groeshoeliesid gydag ef, a’i difenwasant ef. 33 A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 34 Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o’i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? 35 A rhai o’r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Eleias. 36 Ac un a redodd, ac a lanwodd ysbwng yn llawn o finegr, ac a’i dododd ar gorsen, ac a’i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Eleias i’w dynnu ef i lawr. 37 A’r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd â’r ysbryd. 38 A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered. 39 A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â’r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn. 40 Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome; 41 Y rhai hefyd, pan oedd efe yng Ngalilea, a’i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem.

42 Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar‐ŵyl, sef y dydd cyn y Saboth,) 43 Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu. 44 A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad ato, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin. 45 A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff. 46 Ac efe a brynodd liain main, ac a’i tynnodd ef i lawr, ac a’i hamdôdd yn y lliain main, ac a’i dododd ef mewn bedd a naddasid o’r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd. 47 A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef.

Next
Marc 14
Marc 16
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences