Add parallel Print Page Options

Baich gair yr Arglwydd at Israel trwy law Malachi. Hoffais chwi, medd yr Arglwydd: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr hoffaist ni? Onid brawd oedd Esau i Jacob? medd yr Arglwydd: eto Jacob a hoffais, Ac Esau a gaseais, ac a osodais ei fynyddoedd yn ddiffeithwch, a’i etifeddiaeth i ddreigiau yr anialwch. Lle y dywed Edom, Tlodwyd ni, eto dychwelwn, ac adeiladwn yr anghyfaneddleoedd; fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Hwy a adeiladant, ond minnau a fwriaf i lawr; a galwant hwynt yn Ardal drygioni, a’r Bobl wrth y rhai y llidiodd yr Arglwydd yn dragywydd. Eich llygaid hefyd a welant, a chwithau a ddywedwch, Mawrygir yr Arglwydd oddi ar derfyn Israel.

Mab a anrhydedda ei dad, a gweinidog ei feistr: ac os ydwyf fi dad, pa le y mae fy anrhydedd? ac os ydwyf fi feistr, pa le y mae fy ofn? medd Arglwydd y lluoedd wrthych chwi yr offeiriaid, y rhai ydych yn dirmygu fy enw: a chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dirmygasom dy enw di? Offrymu yr ydych ar fy allor fara halogedig; a chwi a ddywedwch, Ym mha beth yr halogasom di? Am i chwi ddywedyd, Dirmygus yw bwrdd yr Arglwydd. Ac os offrymu yr ydych y dall yn aberth, onid drwg hynny? ac os offrymwch y cloff a’r clwyfus, onid drwg hynny? cynnig ef yr awron i’th dywysog, a fydd efe bodlon i ti? neu a dderbyn efe dy wyneb? medd Arglwydd y lluoedd. Ac yn awr gweddïwch, atolwg, gerbron Duw, fel y trugarhao wrthym: o’ch llaw chwi y bu hyn: a dderbyn efe wyneb un ohonoch? medd Arglwydd y lluoedd. 10 A phwy hefyd ohonoch a gaeai y dorau, neu a oleuai fy allor yn rhad? Nid oes gennyf fodlonrwydd ynoch chwi, medd Arglwydd y lluoedd, ac ni dderbyniaf offrwm o’ch llaw. 11 Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y Cenhedloedd: ac ym mhob lle arogl-darth a offrymir i’m henw, ac offrwm pur: canys mawr fydd fy enw ymhlith y Cenhedloedd, medd Arglwydd y lluoedd.

12 Ond chwi a’i halogasoch ef, pan ddywedasoch, Bwrdd yr Arglwydd sydd halogedig; a’i ffrwyth, sef ei fwyd, sydd ddirmygus. 13 Chwi hefyd a ddywedasoch, Wele, pa flinder yw! a ffroenasoch arno, medd Arglwydd y lluoedd; a dygasoch yr hyn a ysglyfaethwyd, a’r cloff, a’r clwyfus; fel hyn y dygasoch offrwm: a fyddaf fi fodlon i hynny o’ch llaw chwi? medd yr Arglwydd. 14 Ond melltigedig yw y twyllodrus, yr hwn y mae yn ei ddiadell wryw, ac a adduna ac a abertha un llygredig i’r Arglwydd; canys Brenin mawr ydwyf fi, medd Arglwydd y lluoedd, a’m henw sydd ofnadwy ymhlith y cenhedloedd.

A prophecy:(A) The word(B) of the Lord to Israel through Malachi.[a]

Israel Doubts God’s Love

“I have loved(C) you,” says the Lord.

“But you ask,(D) ‘How have you loved us?’

“Was not Esau Jacob’s brother?” declares the Lord. “Yet I have loved Jacob,(E) but Esau I have hated,(F) and I have turned his hill country into a wasteland(G) and left his inheritance to the desert jackals.(H)

Edom(I) may say, “Though we have been crushed, we will rebuild(J) the ruins.”

But this is what the Lord Almighty says: “They may build, but I will demolish.(K) They will be called the Wicked Land, a people always under the wrath of the Lord.(L) You will see it with your own eyes and say, ‘Great(M) is the Lord—even beyond the borders of Israel!’(N)

Breaking Covenant Through Blemished Sacrifices

“A son honors his father,(O) and a slave his master.(P) If I am a father, where is the honor due me? If I am a master, where is the respect(Q) due me?” says the Lord Almighty.(R)

“It is you priests who show contempt for my name.

“But you ask,(S) ‘How have we shown contempt for your name?’

“By offering defiled food(T) on my altar.

“But you ask,(U) ‘How have we defiled you?’

“By saying that the Lord’s table(V) is contemptible. When you offer blind animals for sacrifice, is that not wrong? When you sacrifice lame or diseased animals,(W) is that not wrong? Try offering them to your governor! Would he be pleased(X) with you? Would he accept you?” says the Lord Almighty.(Y)

“Now plead with God to be gracious to us. With such offerings(Z) from your hands, will he accept(AA) you?”—says the Lord Almighty.

10 “Oh, that one of you would shut the temple doors,(AB) so that you would not light useless fires on my altar! I am not pleased(AC) with you,” says the Lord Almighty, “and I will accept(AD) no offering(AE) from your hands. 11 My name will be great(AF) among the nations,(AG) from where the sun rises to where it sets.(AH) In every place incense(AI) and pure offerings(AJ) will be brought to me, because my name will be great among the nations,” says the Lord Almighty.

12 “But you profane it by saying, ‘The Lord’s table(AK) is defiled,’ and, ‘Its food(AL) is contemptible.’ 13 And you say, ‘What a burden!’(AM) and you sniff at it contemptuously,(AN)” says the Lord Almighty.

“When you bring injured, lame or diseased animals and offer them as sacrifices,(AO) should I accept them from your hands?”(AP) says the Lord. 14 “Cursed is the cheat who has an acceptable male in his flock and vows to give it, but then sacrifices a blemished animal(AQ) to the Lord. For I am a great king,(AR)” says the Lord Almighty,(AS) “and my name is to be feared(AT) among the nations.(AU)

Footnotes

  1. Malachi 1:1 Malachi means my messenger.