Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Luc 9  Beibl William Morgan

9 Ac efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg disgybl, ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iacháu clefydau. 2 Ac efe a’u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iacháu’r rhai cleifion. 3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymerwch ddim i’r daith, na ffyn nac ysgrepan, na bara, nac arian; ac na fydded gennych ddwy bais bob un. 4 Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch. 5 A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, pan eloch allan o’r ddinas honno, ysgydwch hyd yn oed y llwch oddi wrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt. 6 Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethant trwy’r trefi, gan bregethu’r efengyl, a iacháu ym mhob lle.

7 A Herod y tetrarch a glybu’r cwbl oll a wnaethid ganddo; ac efe a betrusodd, am fod rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw; 8 A rhai eraill, ymddangos o Eleias; a rhai eraill, mai proffwyd, un o’r rhai gynt, a atgyfodasai. 9 A Herod a ddywedodd, Ioan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau amdano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.

10 A’r apostolion, wedi dychwelyd, a fynegasant iddo’r cwbl a wnaethent. Ac efe a’u cymerth hwynt, ac a aeth o’r neilltu, i le anghyfannedd yn perthynu i’r ddinas a elwir Bethsaida. 11 A’r bobloedd pan wybuant, a’i dilynasant ef: ac efe a’u derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisiau eu hiacháu. 12 A’r dydd a ddechreuodd hwyrhau; a’r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymaith, fel y gallont fyned i’r trefi, ac i’r wlad oddi amgylch, i letya, ac i gael bwyd: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfannedd. 13 Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum torth, a dau bysgodyn, oni bydd inni fyned a phrynu bwyd i’r bobl hyn oll. 14 Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain. 15 Ac felly y gwnaethant; a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd. 16 Ac efe a gymerodd y pum torth, a’r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fyny i’r nef, ac a’u bendithiodd hwynt, ac a’u torrodd, ac a’u rhoddodd i’r disgyblion i’w gosod gerbron y bobl. 17 A hwynt‐hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friwfwyd, ddeuddeg basgedaid.

18 Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddïo ei hunan, fod ei ddisgyblion gydag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae’r bobl yn dywedyd fy mod i? 19 Hwythau gan ateb a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ond eraill, mai Eleias; ac eraill, mai rhyw broffwyd o’r rhai gynt a atgyfododd. 20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phedr gan ateb a ddywedodd, Crist Duw. 21 Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb; 22 Gan ddywedyd, Mae’n rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydd atgyfodi.

23 Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi. 24 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos i, hwnnw a’i ceidw hi. 25 Canys pa lesâd i ddyn, er ennill yr holl fyd, a’i ddifetha’i hun, neu fod wedi ei golli? 26 Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a’m geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a’r Tad, a’r angylion sanctaidd. 27 Eithr dywedaf i chwi yn wir, Y mae rhai o’r sawl sydd yn sefyll yma a’r nid archwaethant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw.

28 A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi’r geiriau hyn, gymryd ohono ef Pedr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fyny i’r mynydd i weddïo. 29 Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a’i wisg oedd yn wen ddisglair. 30 Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanodd ag ef, y rhai oedd Moses ac Eleias: 31 Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerwsalem. 32 A Phedr, a’r rhai oedd gydag ef, oeddynt wedi trymhau gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a’r ddau ŵr y rhai oedd yn sefyll gydag ef. 33 A bu, a hwy yn ymado oddi wrtho ef, ddywedyd o Pedr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Eleias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd. 34 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a’u cysgododd hwynt: a hwynt‐hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i’r cwmwl. 35 A daeth llef allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab annwyl; gwrandewch ef. 36 Ac wedi bod y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwy a gelasant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent.

37 A darfu drannoeth, pan ddaethant i waered o’r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef. 38 Ac wele, gŵr o’r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn atolwg i ti, edrych ar fy mab; canys fy unig‐anedig yw. 39 Ac wele, y mae ysbryd yn ei gymryd ef, ac yntau yn ddisymwth yn gweiddi; ac y mae’n ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn; a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ysigo ef. 40 Ac mi a ddeisyfais ar dy ddisgyblion di ei fwrw ef allan; ac nis gallasant. 41 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? dwg dy fab yma. 42 Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a’i rhwygodd ef, ac a’i drylliodd: a’r Iesu a geryddodd yr ysbryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a’i rhoddes ef i’w dad.

43 A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw. Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai’r Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 44 Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dyn a draddodir i ddwylo dynion. 45 Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel nas deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn.

46 A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf ohonynt. 47 A’r Iesu, wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymerth fachgennyn, ac a’i gosododd yn ei ymyl, 48 Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio’r bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynnag a’m derbynio i, sydd yn derbyn yr hwn a’m hanfonodd i: canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr.

49 Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd, O Feistr, ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid; ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyda ni. 50 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch iddo: canys y neb nid yw i’n herbyn, trosom ni y mae.

51 A bu, pan gyflawnwyd y dyddiau y cymerid ef i fyny, yntau a roddes ei fryd ar fyned i Jerwsalem. 52 Ac efe a ddanfonodd genhadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i baratoi iddo ef. 53 Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegid fod ei wyneb ef yn tueddu tua Jerwsalem. 54 A’i ddisgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni di ddywedyd ohonom am ddyfod tân i lawr o’r nef, a’u difa hwynt, megis y gwnaeth Eleias? 55 Ac efe a drodd, ac a’u ceryddodd hwynt; ac a ddywedodd, Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi. 56 Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i’w cadw. A hwy a aethant i dref arall.

57 A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw un ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 58 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr. 59 Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Dilyn fi. Ac yntau a ddywedodd, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 60 Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gad i’r meirw gladdu eu meirw: ond dos di, a phregetha deyrnas Dduw. 61 Ac un arall hefyd a ddywedodd, Mi a’th ddilynaf di, O Arglwydd; ond gad i mi yn gyntaf ganu’n iach i’r rhai sydd yn fy nhŷ. 62 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ôl, yn gymwys i deyrnas Dduw.

Next
Luc 8
Luc 10
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences