Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Luc 24  Beibl William Morgan

24 A’r dydd cyntaf o’r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt. 2 A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd. 3 Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. 4 A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair. 5 Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw ymysg y meirw? 6 Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe eto yng Ngalilea, 7 Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi. 8 A hwy a gofiasant ei eiriau ef; 9 Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg, ac i’r lleill oll. 10 A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion. 11 A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt. 12 Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod o’r neilltu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.

13 Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a’i henw Emaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem. 14 Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent. 15 A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â’i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt. 16 Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef. 17 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist? 18 Ac un ohonynt, a’i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn? 19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth, yr hwn oedd ŵr o broffwyd, galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl; 20 A’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a’i croeshoeliasant ef. 21 Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai’r Israel. Ac heblaw hyn oll, heddiw yw’r trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn. 22 A hefyd rhai gwragedd ohonom ni a’n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd: 23 A phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddywedent ei fod ef yn fyw. 24 A rhai o’r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasai’r gwragedd: ond ef nis gwelsant. 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y proffwydi! 26 Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i’w ogoniant? 27 A chan ddechrau ar Moses, a’r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun. 28 Ac yr oeddynt yn nesáu i’r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach. 29 A hwy a’i cymellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a’r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt. 30 A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt. 31 A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuant ef: ac efe a ddiflannodd allan o’u golwg hwynt. 32 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau? 33 A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r sawl oedd gyda hwynt, 34 Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosodd i Simon. 35 A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.

36 Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi. 37 Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a dybiasant weled ohonynt ysbryd. 38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y’ch trallodir? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau? 39 Edrychwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi. 40 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed. 41 Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddim bwyd? 42 A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl. 43 Yntau a’i cymerodd, ac a’i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt. 44 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi. 45 Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau. 46 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd: 47 A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerwsalem. 48 Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn.

49 Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder.

50 Ac efe a’u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a’u bendithiodd hwynt. 51 Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef. 52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr: 53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.

Next
Luc 23
Ioan 1
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences