Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Share feedback on the new Bible Gateway
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Share feedback on the new Bible Gateway
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • Explore
    • Bible News
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
PrintPrintSettingsSettingsShareShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Luc 23  Beibl William Morgan

23 A’r holl liaws ohonynt a gyfodasant, ac a’i dygasant ef at Peilat: 2 Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyrdroi’r bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Gesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin. 3 A Pheilat a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Ac efe a atebodd iddo, ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd. 4 A dywedodd Peilat wrth yr archoffeiriaid a’r bobl, Nid wyf fi yn cael dim bai ar y dyn hwn. 5 A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi’r bobl, gan ddysgu trwy holl Jwdea, wedi dechrau o Galilea hyd yma. 6 A phan glybu Peilat sôn am Galilea, efe a ofynnodd ai Galilead oedd y dyn. 7 A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a’i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.

8 A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer amdano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef. 9 Ac efe a’i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid atebodd ddim iddo. 10 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug. 11 A Herod a’i filwyr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a’i watwar, a’i wisgo â gwisg glaerwen, a’i danfonodd ef drachefn at Peilat.

12 A’r dwthwn hwnnw yr aeth Peilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o’r blaen mewn gelyniaeth â’i gilydd.

13 A Pheilat, wedi galw ynghyd yr archoffeiriaid, a’r llywiawdwyr, a’r bobl, 14 A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un a fyddai’n gŵyrdroi’r bobl: ac wele, myfi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef amdanynt: 15 Na Herod chwaith: canys anfonais chwi ato ef; ac wele, dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed iddo. 16 Am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf ymaith. 17 Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr ŵyl. 18 A’r holl liaws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd: 19 (Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.) 20 Am hynny Peilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd. 21 Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef. 22 Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf yn rhydd. 23 Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A’u llefau hwynt a’r archoffeiriaid a orfuant. 24 A Pheilat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt. 25 Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid yng ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i’w hewyllys hwynt. 26 Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o’r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i’w dwyn ar ôl yr Iesu.

27 Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o’i blegid ef. 28 A’r Iesu, wedi troi atynt, a ddywedodd, Merched Jerwsalem, nac wylwch o’m plegid i: eithr wylwch o’ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant. 29 Canys wele, y mae’r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai amhlantadwy, a’r crothau nid epiliasant, a’r bronnau ni roesant sugn. 30 Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni. 31 Canys os gwnânt hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin? 32 Ac arweiniwyd gydag ef hefyd ddau eraill, drwgweithredwyr, i’w rhoi i’w marwolaeth. 33 A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy.

34 A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. 35 A’r bobl a safodd yn edrych. A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw. 36 A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddyfod ato, a chynnig iddo finegr, 37 A dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iddewon, gwared dy hun. 38 Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef, â llythrennau Groeg, a Lladin, a Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.

39 Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau. 40 Eithr y llall a atebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth? 41 A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. 42 Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas. 43 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys. 44 Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 45 A’r haul a dywyllwyd, a llen y deml a rwygwyd yn ei chanol.

46 A’r Iesu, gan lefain â llef uchel, a ddywedodd, O Dad, i’th ddwylo di y gorchmynnaf fy ysbryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd. 47 A’r canwriad, pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wir yr oedd hwn yn ŵr cyfiawn. 48 A’r holl bobloedd y rhai a ddaethent ynghyd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau. 49 A’i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a’r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o Galilea, yn edrych ar y pethau hyn.

50 Ac wele, gŵr a’i enw Joseff, yr hwn oedd gynghorwr, gŵr da a chyfiawn: 51 (Hwn ni chytunasai â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt;) o Arimathea, dinas yr Iddewon, yr hwn oedd yntau yn disgwyl hefyd am deyrnas Dduw; 52 Hwn a ddaeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. 53 Ac efe a’i tynnodd i lawr, ac a’i hamdôdd mewn lliain main, ac a’i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed. 54 A’r dydd hwnnw oedd ddarpar‐ŵyl, a’r Saboth oedd yn nesáu. 55 A’r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gydag ef o Galilea, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef. 56 A hwy a ddychwelasant, ac a baratoesant beraroglau ac ennaint; ac a orffwysasant ar y Saboth, yn ôl y gorchymyn.

Next
Luc 22
Luc 24
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences