Add parallel Print Page Options

12 Yn y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasglu ynghyd, hyd onid ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion, Yn gyntaf, gwyliwch arnoch rhag surdoes y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith. Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nis gwybyddir. Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y golau; a’r peth a ddywedasoch yn y glust mewn ystafelloedd, a bregethir ar bennau tai. Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy i’w wneuthur. Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch: Ofnwch yr hwn, wedi y darffo iddo ladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie, meddaf i chwi, Hwnnw a ofnwch. Oni werthir pump o adar y to er dwy ffyrling? ac nid oes un ohonynt mewn angof gerbron Duw: Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll. Am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well na llawer o adar y to. Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a’m haddefo i gerbron dynion, Mab y dyn hefyd a’i haddef yntau gerbron angylion Duw. A’r hwn a’m gwado i gerbron dynion, a wedir gerbron angylion Duw. 10 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i’r neb a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir. 11 A phan y’ch dygant i’r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a’r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a ateboch, neu beth a ddywedoch: 12 Canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd.

13 A rhyw un o’r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth. 14 Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi? 15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd‐dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.

16 Ac efe a draethodd wrthynt ddameg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda. 17 Ac efe a ymresymodd ynddo’i hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo? 18 Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a’m da. 19 A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt dda lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynyddoedd: gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen. 20 Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist? 21 Felly y mae’r hwn sydd yn trysori iddo’i hun, ac nid yw gyfoethog tuag at Dduw.

22 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymerwch ofal am eich bywyd, beth a fwytaoch; nac am eich corff, beth a wisgoch. 23 Y mae’r bywyd yn fwy na’r ymborth, a’r corff yn fwy na’r dillad. 24 Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i’r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na’r adar? 25 A phwy ohonoch, gan gymryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli? 26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymryd gofal am y lleill? 27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o’r rhai hyn. 28 Ac os yw Duw felly yn dilladu’r llysieuyn, yr hwn sydd heddiw yn y maes, ac yfory a deflir i’r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd? 29 Chwithau na cheisiwch beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch amheus. 30 Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisiau’r pethau hyn.

31 Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw; a’r pethau hyn oll a roddir i chwi yn chwaneg. 32 Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i’ch Tad roddi i chwi y deyrnas. 33 Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi byrsau y rhai ni heneiddiant; trysor yn y nefoedd, yr hwn ni dderfydd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra pryf. 34 Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd. 35 Bydded eich lwynau wedi eu hymwregysu, a’ch canhwyllau wedi eu golau: 36 A chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd. 37 Gwyn eu byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn neffro: yn wir, meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwyta, ac a ddaw, ac a wasanaetha arnynt hwy. 38 Ac os daw efe ar yr ail wyliadwriaeth, ac os ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael hwynt felly, gwyn eu byd y gweision hynny. 39 A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gŵr y tŷ pa awr y deuai’r lleidr, efe a wyliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd. 40 A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mab y dyn.

41 A Phedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ai wrthym ni yr wyt ti yn dywedyd y ddameg hon, ai wrth bawb hefyd? 42 A’r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw’r goruchwyliwr ffyddlon a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyfluniaeth iddynt mewn pryd? 43 Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef, pan ddêl, yn gwneuthur felly. 44 Yn wir meddaf i chwi, Efe a’i gesyd ef yn llywodraethwr ar gwbl ag sydd eiddo. 45 Eithr os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod; a dechrau curo’r gweision a’r morynion, a bwyta ac yfed, a meddwi: 46 Daw arglwydd y gwas hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwyl, ac ar awr nad yw efe yn gwybod, ac a’i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyda’r anffyddloniaid. 47 A’r gwas hwnnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratôdd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a gurir â llawer ffonnod. 48 Eithr yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonodiau, a gurir ag ychydig ffonodiau. Ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynnir ganddo; a chyda’r neb y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant ganddo.

49 Mi a ddeuthum i fwrw tân ar y ddaear: a pheth a fynnaf os cyneuwyd ef eisoes? 50 Eithr y mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orffenner! 51 Ydych chwi yn tybied mai heddwch y deuthum i i’w roddi ar y ddaear? nage, meddaf i chwi; ond yn hytrach ymrafael: 52 Canys bydd o hyn allan bump yn yr un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri. 53 Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a’r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch, a’r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a’r waudd yn erbyn ei chwegr.

54 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmwl yn codi o’r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae. 55 A phan weloch y deheuwynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres: ac fe fydd. 56 O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynepryd y ddaear a’r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall? 57 A phaham nad ydych, ie, ohonoch eich hunain, yn barnu’r hyn sydd gyfiawn?

58 Canys tra fyddech yn myned gyda’th wrthwynebwr at lywodraethwr, gwna dy orau ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i’r barnwr dy roddi at y swyddog, ac i’r swyddog dy daflu yng ngharchar: 59 Yr wyf yn dywedyd i ti, Nad ei di ddim oddi yno, hyd oni thelych, ie, yr hatling eithaf.