Add parallel Print Page Options

16 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef. Ac efe a’i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed amdanat? dyro gyfrif o’th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn oruchwyliwr. A’r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf: cloddio nis gallaf, a chardota sydd gywilyddus gennyf. Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y’m bwrier allan o’r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i’w tai. Ac wedi iddo alw ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnat ti o ddyled i’m harglwydd? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifenna ddeg a deugain. Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna bedwar ugain. A’r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni. Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o’r mamon anghyfiawn: fel, pan fo eisiau arnoch, y’ch derbyniont i’r tragwyddol bebyll. 10 Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer; a’r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer. 11 Am hynny, oni buoch ffyddlon yn y mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud? 12 Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun? 13 Ni ddichon un gwas wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a mamon. 14 A’r Phariseaid hefyd, y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a’i gwatwarasant ef. 15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion; eithr Duw a ŵyr eich calonnau chwi: canys y peth sydd uchel gyda dynion, sydd ffiaidd gerbron Duw. 16 Y gyfraith a’r proffwydi oedd hyd Ioan: er y pryd hwnnw y pregethir teyrnas Dduw, a phob dyn sydd yn ymwthio iddi. 17 A haws yw i nef a daear fyned heibio, nag i un tipyn o’r gyfraith ballu. 18 Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu; a phwy bynnag a briodo’r hon a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gŵr, y mae efe yn godinebu.

19 Yr oedd rhyw ŵr goludog, ac a wisgid â phorffor a lliain main, ac yr oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd: 20 Yr oedd hefyd ryw gardotyn, a’i enw Lasarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd, 21 Ac yn chwenychu cael ei borthi â’r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gŵr cyfoethog; ond y cŵn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef. 22 A bu, i’r cardotyn farw, a’i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham. A’r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd: 23 Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lasarus yn ei fynwes. 24 Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus, i drochi pen ei fys mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a’m poenir yn y fflam hon. 25 Ac Abraham a ddywedodd, Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lasarus ei adfyd: ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir dithau. 26 Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd agendor mawr: fel na allo’r rhai a fynnent, dramwy oddi yma atoch chwi; na’r rhai oddi yna, dramwy atom ni. 27 Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn atolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon ohonot ef i dŷ fy nhad; 28 Canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod ohonynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn. 29 Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a’r proffwydi; gwrandawant arnynt hwy. 30 Yntau a ddywedodd, Nage, y tad Abraham: eithr os â un oddi wrth y meirw atynt, hwy a edifarhânt. 31 Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a’r proffwydi, ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw.

The Parable of the Shrewd Manager

16 Jesus told his disciples: “There was a rich man whose manager was accused of wasting his possessions.(A) So he called him in and asked him, ‘What is this I hear about you? Give an account of your management, because you cannot be manager any longer.’

“The manager said to himself, ‘What shall I do now? My master is taking away my job. I’m not strong enough to dig, and I’m ashamed to beg— I know what I’ll do so that, when I lose my job here, people will welcome me into their houses.’

“So he called in each one of his master’s debtors. He asked the first, ‘How much do you owe my master?’

“‘Nine hundred gallons[a] of olive oil,’ he replied.

“The manager told him, ‘Take your bill, sit down quickly, and make it four hundred and fifty.’

“Then he asked the second, ‘And how much do you owe?’

“‘A thousand bushels[b] of wheat,’ he replied.

“He told him, ‘Take your bill and make it eight hundred.’

“The master commended the dishonest manager because he had acted shrewdly. For the people of this world(B) are more shrewd(C) in dealing with their own kind than are the people of the light.(D) I tell you, use worldly wealth(E) to gain friends for yourselves, so that when it is gone, you will be welcomed into eternal dwellings.(F)

10 “Whoever can be trusted with very little can also be trusted with much,(G) and whoever is dishonest with very little will also be dishonest with much. 11 So if you have not been trustworthy in handling worldly wealth,(H) who will trust you with true riches? 12 And if you have not been trustworthy with someone else’s property, who will give you property of your own?

13 “No one can serve two masters. Either you will hate the one and love the other, or you will be devoted to the one and despise the other. You cannot serve both God and money.”(I)

14 The Pharisees, who loved money,(J) heard all this and were sneering at Jesus.(K) 15 He said to them, “You are the ones who justify yourselves(L) in the eyes of others, but God knows your hearts.(M) What people value highly is detestable in God’s sight.

Additional Teachings

16 “The Law and the Prophets were proclaimed until John.(N) Since that time, the good news of the kingdom of God is being preached,(O) and everyone is forcing their way into it. 17 It is easier for heaven and earth to disappear than for the least stroke of a pen to drop out of the Law.(P)

18 “Anyone who divorces his wife and marries another woman commits adultery, and the man who marries a divorced woman commits adultery.(Q)

The Rich Man and Lazarus

19 “There was a rich man who was dressed in purple and fine linen and lived in luxury every day.(R) 20 At his gate was laid a beggar(S) named Lazarus, covered with sores 21 and longing to eat what fell from the rich man’s table.(T) Even the dogs came and licked his sores.

22 “The time came when the beggar died and the angels carried him to Abraham’s side. The rich man also died and was buried. 23 In Hades, where he was in torment, he looked up and saw Abraham far away, with Lazarus by his side. 24 So he called to him, ‘Father Abraham,(U) have pity on me and send Lazarus to dip the tip of his finger in water and cool my tongue, because I am in agony in this fire.’(V)

25 “But Abraham replied, ‘Son, remember that in your lifetime you received your good things, while Lazarus received bad things,(W) but now he is comforted here and you are in agony.(X) 26 And besides all this, between us and you a great chasm has been set in place, so that those who want to go from here to you cannot, nor can anyone cross over from there to us.’

27 “He answered, ‘Then I beg you, father, send Lazarus to my family, 28 for I have five brothers. Let him warn them,(Y) so that they will not also come to this place of torment.’

29 “Abraham replied, ‘They have Moses(Z) and the Prophets;(AA) let them listen to them.’

30 “‘No, father Abraham,’(AB) he said, ‘but if someone from the dead goes to them, they will repent.’

31 “He said to him, ‘If they do not listen to Moses and the Prophets, they will not be convinced even if someone rises from the dead.’”

Footnotes

  1. Luke 16:6 Or about 3,000 liters
  2. Luke 16:7 Or about 30 tons