Add parallel Print Page Options

18 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw. Na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad yr Aifft, yr hon y trigasoch ynddi; ac na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlad Canaan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi; ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt. Fy marnedigaethau i a wnewch, a’m deddfau a gedwch, i rodio ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw. Ie, cedwch fy neddfau a’m barnedigaethau: a’r dyn a’u cadwo, a fydd byw ynddynt: myfi yw yr Arglwydd.

Na nesaed neb at gyfnesaf ei gnawd, i ddinoethi eu noethni: myfi yw yr Arglwydd. Noethni dy dad, neu noethni dy fam, na ddinoetha: dy fam yw hi, na ddinoetha ei noethni. Na ddinoetha noethni gwraig dy dad: noethni dy dad yw. Noethni dy chwaer, merch dy dad, neu ferch dy fam, yr hon a anwyd gartref, neu a anwyd allan; na ddinoetha eu noethni hwynt. 10 Noethni merch dy fab, neu ferch dy ferch; na ddinoetha eu noethni hwynt: canys dy noethni di ydyw. 11 Noethni merch gwraig dy dad, plentyn dy dad, dy chwaer dithau yw hi; na ddinoetha ei noethni hi. 12 Na ddinoetha noethni chwaer dy dad: cyfnesaf dy dad yw hi. 13 Na ddinoetha noethni chwaer dy fam: canys cyfnesaf dy fam yw hi. 14 Na noetha noethni brawd dy dad; sef na nesâ at ei wraig ef: dy fodryb yw hi. 15 Na noetha noethni dy waudd: gwraig dy fab yw hi; na noetha ei noethni hi. 16 Na ddinoetha noethni gwraig dy frawd: noethni dy frawd yw. 17 Na noetha noethni gwraig a’i merch; na chymer ferch ei mab hi, neu ferch ei merch hi, i noethi ei noethni hi: ei chyfnesaf hi yw y rhai hyn: ysgelerder yw hyn. 18 Hefyd na chymer wraig ynghyd â’i chwaer, i’w chystuddio hi, gan noethi noethni honno gyda’r llall, yn ei byw hi. 19 Ac na nesâ at wraig yn neilltuaeth ei haflendid, i noethi ei noethni hi. 20 Ac na chydorwedd gyda gwraig dy gymydog, i fod yn aflan o’i phlegid. 21 Ac na ddod o’th had i fyned trwy dân i Moloch: ac na haloga enw dy Dduw: myfi yw yr Arglwydd. 22 Ac na orwedd gyda gwryw, fel gorwedd gyda benyw: ffieidd‐dra yw hynny. 23 Ac na chydorwedd gydag un anifail, i fod yn aflan gydag ef; ac na safed gwraig o flaen un anifail i orwedd dano: cymysgedd yw hynny. 24 Nac ymhalogwch yn yr un o’r pethau hyn: canys yn y rhai hyn oll yr halogwyd y cenhedloedd yr ydwyf yn eu gyrru allan o’ch blaen chwi: 25 A’r wlad a halogwyd: am hynny yr ydwyf yn ymweled â’i hanwiredd yn ei herbyn, fel y chwydo’r wlad ei thrigolion. 26 Ond cedwch chwi fy neddfau a’m barnedigaethau i, ac na wnewch ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; na’r priodor, na’r dieithrddyn sydd yn ymdaith yn eich mysg: 27 (Oherwydd yr holl ffiaidd bethau hyn a wnaeth gwŷr y wlad, y rhai a fu o’ch blaen, a’r wlad a halogwyd;) 28 Fel na chwydo’r wlad chwithau, pan halogoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o’ch blaen. 29 Canys pwy bynnag a wnêl ddim o’r holl ffiaidd bethau hyn; torrir ymaith yr eneidiau a’u gwnelo o blith eu pobl. 30 Am hynny cedwch fy neddf i, heb wneuthur yr un o’r deddfau ffiaidd a wnaed o’ch blaen chwi, ac nac ymhalogwch ynddynt: myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.