Add parallel Print Page Options

Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymo efe eidion, offrymed ef gerbron yr Arglwydd yn berffaith‐gwbl; pa un bynnag ai yn wryw ai yn fenyw. A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod: a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch. Ac offrymed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wêr a fydd ar y perfedd; A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â’r arennau. A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

Ac os o’r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd‐aberth i’r Arglwydd, offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith‐gwbl. Os oen a offryma efe yn ei offrwm; yna dyged gerbron yr Arglwydd. A gosoded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch. Ac offrymed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; ei weren, a’r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â’r weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd; 10 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 11 A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd i’r Arglwydd ydyw.

12 Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi gerbron yr Arglwydd. 13 A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch. 14 Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd; 15 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 16 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw. Yr holl wêr sydd eiddo yr Arglwydd. 17 Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau yn eich holl anheddau, yw: na fwytaoch ddim gwêr, na dim gwaed.